Dŵr Cymru'n galw ar bobl i ‘ystyried eu defnydd o ddŵr’
Mae Dŵr Cymru yn gofyn i’w cwsmeriaid ‘ystyried eu defnydd o ddŵr’ gyda’r tywydd poeth yn parhau.
Mae'r rhagolygon yn awgrymu y gallai rhannau o Gymru brofi tymheredd o 25C erbyn dydd Sul.
Daw cais Dŵr Cymru wedi i Scottish Water alw ar bobl Yr Alban i gymryd gofal wrth ddefnyddio cyflenwadau dŵr wedi i’r wlad brofi ei dechrau sychaf i’r flwyddyn ers 1964.
Dywedodd Ian Christie, Rheolwr Gyfarwyddwr Dŵr, Cynllunio Asedau a Chynlluniau Cyfalaf yn Dŵr Cymru, fod lefelau'r dŵr yn eu cronfeydd yn is na'r arfer ar yr adeg hon o'r flwyddyn.
Oherwydd y lefelau isel iawn o law dros y misoedd diwethaf, mae Dŵr Cymru yn gweithredu mesurau i gadw cyflenwadau cronfeydd o ddŵr o'r ucheldir.
“Rydym hefyd yn gofyn i'n cwsmeriaid ystyried eu defnydd o ddŵr.” meddai Ian Christie.
Does dim “pryder gwirioneddol” ar hyn o bryd, meddai, ond “ond ar ôl cyfnod mor sych, oni bai ein bod yn gweld llawer o law, mae'n hanfodol ein bod yn helpu i gadw'r cyflenwadau yn ein cronfeydd dŵr a'n nentydd.”
Ychwanegodd fod gweithwyr Dŵr Cymru yn “gweithio rownd y cloc” i wneud “popeth y gallwn i gael cymaint o ddŵr sydd wedi ei drin i'r system”.
Dywedodd fod y timau yn trwsio 700 o ollyngiadau ar wythnos arferol.
“Nid ydym yn gofyn i bobl beidio â defnyddio eu dŵr, rydym yn gofyn iddynt ddefnyddio'r dŵr sydd ei angen arnynt ond osgoi ei wastraffu." meddai.
Mae Dŵr Cymru yn annog eu cwsmeriaid i leihau gwastraff dŵr drwy:
- beidio â gadael y tap yn rhedeg wrth olchi dwylo neu frwsio dannedd.
- gymryd cawod yn lle bath.
- aros hyd nes bod y peiriant golchi a’r peiriant golchi llestri yn llawn cyn eu rhoi ymlaen.
- beidio â llenwi pyllau padlo i’r brig, ac i ddefnyddio’r dŵr ar blanhigion yr ardd ar ôl gorffen.
- beidio â dyfrio eu lawnt i'w chadw'n wyrdd - bydd y lliw yn dod yn ôl yn fuan ar ôl iddi lawio.