Newyddion S4C

'Siop Sheila': Diwedd cyfnod i un o hoelion wyth Llanfairpwll ym Môn

'Siop Sheila': Diwedd cyfnod i un o hoelion wyth Llanfairpwll ym Môn

Fe fydd hi'n ddiwedd cyfnod i un o hoelion wyth pentref Llanfairpwll ar Ynys Môn ddydd Sadwrn.

Yn 71 oed, mae Sheila Jones wedi bod yn rhedeg siop sglodion y pentref ers 1990, ond fe fydd yn ymddeol ddydd Sadwrn, ac yn gadael siop Glan Menai am y tro olaf. 

Er ei bod yn byw ym Menllech ar yr ynys, mae hi wedi bod yn teithio yn ddyddiol i Lanfairpwll ers 35 o flynyddoedd. 

"Dwi yma ers 1990, a'r rheswm nes i benderfynu oedd na'th y teulu o'n i'n gweithio iddyn nhw yn Llangefni ofyn os fyswn i'n licio'r cyfla o ddod yma i weithio i fi fy hun 'lly," meddai wrth Newyddion S4C

"Ma' gen i lot o atgofion a chyfarfod gwahanol bobl o bob rhan o'r byd a pobl o fy nghwmpas i hefyd. 

"'Da ni wedi gweld gymaint o bobl a 'dan ni wedi cael llawer o hwyl efo llawer i berson yma."

'Gwaith caled'

Er nad yw'n dymuno ymddeol, mae Mrs Jones yn teimlo mai dyma'r amser cywir i wneud hynny.

"Dim am bo' fi isio mynd o fa'ma, ond am bo' fi wedi blino a'r gwaith yn mynd yn galetach ag yn galetach fel dwi'n mynd yn hŷn. Mae o'n waith caled, ag ar eich traed trwy'r adeg," meddai.

"Yndw, mi ydw i yn edrych ymlaen at ymddeol achos dwi ddim wedi bod i llawer o unlla, hyd yn oed dwi ddim wedi bod yn Llandudno ers 40 o flynyddoedd.

"Dwi'n edrych ymlaen...Dydd Sul, mae’r ŵyr yn mynd a fi allan am ginio Sul, so o hynny ymlaen, jest mynd yma ag  acw dwi’n meddwl, a gwneud be fyswn i’n licio.

"Fyswn i'n licio dymuno yn dda i'r bobl newydd sydd yn cymryd drosodd, diolch."

Hiraeth

Fe fydd gan Mrs Jones hiraeth ar ôl ffarwelio â'r siop a'r holl atgofion am y tro olaf.

"Dwi'n mynd i fethu y lle a'r bobl, achos dwi 'di gwneud lot o ffrindia yma, a fyswn i'n licio diolch i bobl Llanfairpwll am fy nerbyn i yma ac fy nghefnogi i, a phawb o fy nghwmpas i hefyd," meddai.

"Ma' 'na lot o bobl wedi bod yn tu hwnt o ffeind, dwi 'di cael gymaint o anrhegion a chardiau gan bobl sydd yn 'nabod fi reit dda a gan bobl sy'n dod yma bob blwyddyn o wahanol lefydd.

"Ma' 'na lot yn 'nabod hi fel Siop Sheila mwy na Glan Menai."

'Cyfraniad pwysig i'r economi leol'

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Bro Llanfairpwll Stephen Edwards: "Mae ei chyfraniad hi yn bwysig i'r economi leol achos ma' hi wedi bod yna efo busnas ers blynyddoedd. 

"Y siop ydi'r lle i chdi fynd i wybod pwy oedd yn sâl neu pwy oedd wedi priodi a bob dim fel 'na. Er bod hi ddim o'r pentra, ma' hi'n berson hoffus dydi ac ma hi'n rhan o'r pentra er bod hi ddim ohona fo - ma' hi 'di cael y stamp ei bod hi'n un o Llanfair.

"Ma' hi wedi gwneud rhan helaeth i'r pentra ond fydd o'n braf iddi gael joio ei hun ar ôl rhoi'r gorau iddi. Dydi hi ddim wedi bod yn Llandudno ers 40 o flynyddoedd medda hi wrtha fi a ma' hi'n mynd wsos nesa felly chwara teg iddi."

Ychwanegodd Stephen Edwards ei fod yn gobeithio y bydd y siop yn parhau i ffynnu o dan y perchnogion newydd. 

"Jyst gobeithio neith pawb gefnogi y perchnogion newydd, achos hefyd mae o'n cefnogi'r pentra," meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.