Cyhoeddi enwau'r tri fu farw mewn tân yn Sir Rydychen
Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enwau'r diffoddwyr tân ac aelod o'r cyhoedd a fu farw ar ôl tân mawr yn un o gyn-ganolfannau yr Awyrlu Brenhinol yn Sir Rydychen.
Jennie Logan, 30 oed, a Martyn Sadler, 38, oedd y ddau ddiffoddwr tân a fu farw.
Cadarnhaodd Heddlu Dyffryn Tafwys fod David Chester, 57, hefyd wedi marw.
Dywedodd y cyngor sir lleol fod y ddau ddiffoddwr wedi marw wrth geisio rheoli'r tân yng nghyn-ganolfan yr Awyrlu Brenhinol yng nghanolfan Bicester Motion ddydd Iau.
Cafodd dau ddiffoddwr tân arall anafiadau difrifol ac mae'n nhw'n cael triniaeth mewn ysbyty.
Fe gafodd deg o griwiau tân ac achub eu galw ac roedd yna rybuddion i drigolion lleol i aros dan do.
Dywedodd y Prif Weinidog Syr Keir Starmer bod y marwolaethau yn "newyddion ofnadwy".