
Ci cymorth yn 'achubiaeth' i ddynes fyddar o'r gogledd ar ôl dioddef casineb
Mae dynes o Sir y Fflint a ddioddefodd gasineb am siarad iaith arwyddion yn gyhoeddus wedi dweud bod ei chi cymorth yn achubiaeth iddi o ran ei hiechyd meddwl.
Fe wnaeth Alison Wallace ddeffro un bore yn 13 oed i ddarganfod bod ei chlyw wedi diflannu dros nos, gan ddechrau ar gyfnod o chwe blynedd lle y byddai ei chlyw yn diflannu ac yna yn dychwelyd eto.
Ond yn 2020, fe aeth Alison drwy’r broses honno am y tro olaf wedi i’w chlyw ddiflannu "am byth".
A hithau bellach yn 28 oed, mae’n dweud bod ei chi cymorth, Damson, wedi ei helpu mewn ffyrdd nad oes modd iddi fentro i ddisgrifio.
“Roedd fy mywyd i gyd yn ymwneud â bod yn fyddar a fy iechyd meddwl," meddai.
“Doedd gen i ddim hunan-hyder na hunan-barch, roeddwn i’n teimlo fel cysgod o fy hun.
“Mae’r elfen iechyd meddwl o gael Damson yn annisgrifiadwy, does gen i ddim geiriau i drio esbonio faint mae’n ei olygu i mi,” meddai.

'Agweddau negyddol'
Yn 2018, fe ddechreuodd Alison ei swydd gyntaf yn y Ganolfan Adnoddau Byddardod. Yn fuan wedi iddi ddechrau ei gwaith yno, roedd hi’n cael sgwrs yn iaith arwyddion gyda’i chyd-weithiwr ar y stryd.
Fe gerddodd grŵp o bobl ifanc heibio’r ddau gan wneud hwyl am eu pennau am ddefnyddio arwyddion i siarad, ac fe wnaeth un ohonynt boeri ar Alison yn ddiweddarach.
“Roeddwn i wedi delio ag agweddau negyddol tuag at fyddardod yn y gorffennol, ond dim byd mor israddol â hyn," meddai.
Fe wnaeth y profiad wneud iddi deimlo fel nad oedd yn cael ei pharchu ac fe gafodd hynny effaith negyddol ar ei hiechyd meddwl.

'Diogel'
Ond yn 2019, roedd tro ar fyd i Alison wedi iddi gael gwybod y byddai hi'n berchennog ar Damson ar ôl cael cymorth gan elusen Hearing Dogs for Deaf People.
"Dwi'n teimlo’n lot fwy diogel yn mynd allan gyda'r hwyr bellach. Dwi’n gwybod nad ydw i ar ben fy hun pan dwi efo Damson," meddai.
“Dwi’n teimlo ei bod hi’n fy amddiffyn a dwi’n ymddiried ynddi i roi gwybod i mi os oes yna rywbeth yn mynd ymlaen."
Mae Alison, sydd yn feichiog, bellach yn byw gyda’i phartner, Maciej, wedi iddyn nhw gyfarfod tra’n mynd â'u cŵn am dro yn 2020.
