'Gwahaniaeth enfawr': Meysydd chwarae yn helpu plant i gyfathrebu
Mae byrddau cyfathrebu â symbolau arnynt wedi cael eu gosod mewn meysydd chwarae ar draws Cymru i helpu plant ag anawsterau lleferydd.
Mae'r byrddau cyfathrebu yn arddangos symbolau ar gyfer geiriau cyffredin yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan gynnwys 'hapus', 'eisiau' a 'gorffen'.
Mae modd i blant ag anawsterau lleferydd bwyntio at y byrddau, sydd wedi eu cynllunio gan therapyddion iaith a lleferydd arbenigol, er mwyn mynegi eu dymuniadau a'u hanghenion wrth eraill.
Mae'r byrddau dwyieithog hefyd o gymorth i deuluoedd sydd ddim yn siarad Cymraeg i ddysgu geiriau sylfaenol yn yr iaith.
Fe gafodd cynllun peilot llwyddiannus ei gynnal yng ngorllewin Cymru, ac bellach mae'r byrddau yn cael eu cyflwyno ledled y wlad i "greu mannau chwarae cynhwysol i bob plentyn" yn ôl y llywodraeth.
'Cael ein gweld'
Dywedodd Nicole Jacob o Gaerfyrddin fod y byrddau wedi helpu sgiliau cyfathrebu ei mab, Rhys.
"Mae Rhys yn defnyddio dulliau cyfathrebu estynedig ac amgen ac mae gweld byrddau cyfathrebu yn ein parciau lleol yn gwneud inni fel teulu deimlo fel ein bod yn cael ein gweld a’n cefnogi," meddai.
"Mae Rhys yn cael trafferth cyfathrebu ar lafar mewn mannau prysur ac mae cario dyfeisiau cyfathrebu yn anodd felly mae’r byrddau hyn yn cynnig ffordd arall iddo fynegi ei hun.
"Dw i wedi gweld sut y mae’r byrddau yn helpu plant i feithrin perthnasoedd. Mae ffrindiau Rhys wedi dysgu i’w defnyddio gydag e yn gyflym ac maen nhw’n cael hwyl yn rhyngweithio yn ôl ac ymlaen â’i gilydd."
Ychwanegodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden: "Mae’r adborth cadarnhaol gan deuluoedd yn dangos sut y mae newidiadau bach mewn mannau cyhoeddus yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i fywydau plant a’u datblygiad."