Copi £7 o’r Magna Carta ‘yn un go iawn’
Mae copi a gafodd ei brynu am £7 o’r Magna Carta yn ddogfen go iawn sy’n dyddio o adeg teyrnasiad Edward I, yn ôl ymchwilwyr.
Fe wnaeth Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Harvard brynu'r ddogfen am $27.50 (tua £7 ar y pryd) yn 1946.
Ond mae ymchwilydd o Goleg y Brenin Llundain bellach yn credu ei fod yn ddogfen wreiddiol a gafodd ei chreu yn ystod teyrnasiad Edward I yn 1300.
"Mae hwn yn ddarganfyddiad anhygoel," meddai'r Athro David Carpenter o Goleg y Brenin Llundain (KCL).
Dechreuodd ar y gwaith o ddadansoddi’r ddogfen ar ôl gweld copi digidol ohono ar wefan y brifysgol yn yr Unol Daleithiau.
"Dyma'r Magna Carta olaf... ac mae'n haeddu cael ei dathlu fel copi gwreiddiol o un o'r dogfennau pwysicaf yn hanes cyfansoddiadol y byd.”
Fe gafodd cynnwys Magna Carta ei arwyddo yn wreiddiol gan y Brenin John yn 1215 ac roedd yn addo rhyddid sylfaenol i fonedd a phobl gyffredin Lloegr rhag gorthrwm y Brenin.
Fe gafodd y ddogfen ei ail-gyhoeddi gan Frenhinoedd eraill nes teyrnasiad Edward I yn 1300, gyda 25 yn unig o'r dogfennau yn goroesi hyd heddiw.
Y gred yw fod y ddogfen wedi dylanwadu ar gyfreithiau hawliau dynol ledled y byd.
Mae’r rhan fwyaf o’r copïau yn y DU, gydag un ym mhrifddinas UDA, Washington D.C. ag un arall yn Senedd Awstralia yn Canberra.
Dywedodd yr Athro Nicholas Vincent a weithiodd gyda David Carpenter wrth asesu'r ddogfen ei fod “yn eicon o draddodiad gwleidyddol y Gorllewin a chyfraith gyfansoddiadol”.
"Pe baech chi'n gofyn i unrhyw un beth yw'r ddogfen unigol fwyaf enwog yn hanes y byd, mae'n debygol y byddent yn enwi Magna Carta,” meddai.