Capel Curig: Achubwyr mynydd wedi gweld gwrthdrawiad wrth ddychwelyd o geisio achub dyn arall
Roedd aelodau o Sefydliad Achub Mynydd Dyffryn Ogwen yn y fan a’r lle pan ddigwyddodd gwrthdrawiad rhwng beic modur a fan a laddodd dyn ger Capel Curig, medden nhw.
Dywedodd aelodau’r tim eu bod nhw wedi gweld y gwrthdrawiad yn digwydd ac wedi galw 999 wrth ddychwelyd o adfer corff dyn a oedd wedi marw wrth syrthio 300 troedfedd oddi ar Glyder Fach.
Fe wnaeth gyrrwr y beic modur farw ac fe wnaeth theithiwr ddioddef anafiadau difrifol ar ôl y gwrthdrawiad ar yr A5 am 17:31 ar brynhawn Sadwrn, 10 Mai.
Cafodd y ddynes oedd yn teithio ar gefn y beic modur ei chludo mewn hofrennydd i'r ysbyty yn Stoke gydag anafiadau difrifol a allai newid ei bywyd, meddai'r heddlu ar y pryd.
Fe ddioddefodd gyrrwr y fan fân anafiadau.
“Wrth ddychwelyd adref o alwad 58, gwelodd aelodau'r tîm wrthdrawiad rhwng cerbyd a beic modur ger Capel Curig a stopio i roi cymorth,” meddai llefarydd ar ran y tim achub mynydd.
“Ffoniodd arweinydd y tîm 999 i'w riportio ac fe weithiodd aelodau'r tîm gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, a'r Ambiwlans Awyr i drin y beiciwr a'i deithiwr.
“Yn anffodus, ni wnaeth y beiciwr oroesi ac fe gafodd y teithiwr ei hedfan i'r ysbyty.
“Mae meddyliau pawb a oedd yn gysylltiedig gyda theuluoedd a ffrindiau'r rheini a oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad.”
Roedden nhw wedi gweld y gwrthdrawiad wrth ddychwelyd o adfer corff dyn a oedd wedi ei weld yn "syrthio i lawr wyneb" Glyder Fach wrth ddringo ar ei ben ei hun, medden nhw.
"Galwodd y tystion am gymorth a cheisio cynorthwyo'r dyn oedd wedi ei anafu, ond nid oedd wedi goroesi y cwymp," medden nhw.
"Hedfanwyd aelodau'r tîm i'r fan a'r lle gan hofrennydd Gwylwyr y Glannau, ac fe gafodd y dyn oedd wedi syrthio ei gario i bwynt lle yr oedd modd ei hedfan oddi yno."