Nifer y plant sy'n cael addysg yn y cartref yn Sir Gâr wedi dyblu mewn pum mlynedd
Mae'n bosibl y bydd niferoedd y plant sy'n cael eu haddysg yn y cartref yn Sir Gaerfyrddin yn uwch na nifer y disgyblion mewn ambell ysgol uwchradd yn y sir erbyn yr haf.
Yn ôl un o'r rheolwyr yn adran addysg y sir, Vicky Jeremy, roedd 736 yn cael eu haddysgu yn y cartref ar 12 Mai – mae hynny'n ddwbl y niferoedd bum mlynedd yn ôl.
Mewn cyfarfod diweddar, dywedodd Ms Jeremy: “Gallai'r ffigwr gyrraedd 800 erbyn diwedd y flwyddyn academaidd, sy'n uchel iawn - yn uwch na nifer o'n hysgolion uwchradd.”
Mae'r niferoedd sy'n cael addysg yn y cartref wedi cynyddu ar hyd a lled Cymru. Sir Gâr sydd â'r ail lefel uchaf drwy Gymru ar sail poblogaeth.
Roedd y cynghorwyr yn y cyfarfod sgriwtineiddio ym maes addysg, pobl ifanc a'r Gymraeg yn awyddus i wybod pam fod rhieni yn dewis addysgu eu plant yn y cartref, ac yn awyddus i ystyried pa gamau monitro dylid eu gweithredu.
Dywedodd un rhiant, Deborah Elias, ei bod hi'n dysgu un o'i chwech o blant adref, ond ei bod yn bwriadu iddi ddychwelyd i'r ysgol ar ryw adeg, a bod hynny "y penderfyniad cywir" iddi hi.
Dywedodd Ms Jeremy fod gan y cyngor swyddogion addysg yn y cartref sy'n rhoi cefnogaeth i ddysgwyr ac yn cynnal adolygiadau.
Mae cofrestr yn cael ei chadw o bob plentyn sy'n cael addysg adref. Ond does dim rhaid i rieni gyfarfod â swyddogion y cyngor.
Mae'r rhan fwyaf o rieni sy'n addysgu eu plant yn y cartref yn gwneud hynny am resymau athronyddol ac oherwydd ffordd o fyw, yn ôl Ms Jeremy.
Rhesymau eraill, meddai hi yw problemau iechyd meddwl a gor bryder.
Roedd trafferthion yn yr ysgol yn ffactor arall.
Ychwanegodd fod grŵp o rieni sy'n addysgu yn y cartref yn annog teuluoedd i beidio â chyfathrebu â'r cyngor pan yn dewis addysgu eu plentyn adref.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, aelod o'r cabinet dros addysg cabinet: “Yn bersonol, rydw i'n meddwl fod plant mewn gwell sefyllfa yn y dosbarth, gyda disgyblion eraill, wrth iddyn nhw gymdeithasu â phlant eraill. Dyna fy marn. Ond mae gan bobl eraill farn wahanol wrth gwrs.”