Newyddion S4C

Prifysgol Bangor: Ymgynghori ar ddiswyddiadau, ond llai i golli eu gwaith

Bangor

Mae Is-ganghellor Prifysgol Bangor wedi dweud wrth staff na fydd angen diswyddo cymaint o weithwyr ag oedd wedi ei ddisgwyl yn flaenorol, ond bod diswyddiadau gorfodol yn parhau fel opsiwn os nad yw targedau'n cael eu cyrraedd.

Ym mis Chwefror eleni dywedodd y brifysgol y byddai tua 200 o swyddi yn cael eu torri mewn ymdrech i arbed £15m.

Ond mewn llythyr at staff ddydd Mercher, dywedodd Yr Athro Edmund Burke fod targedau arbedion y brifysgol wedi eu lleihau i "tua £5.3 miliwn" ac mae hynny yn "cynrychioli tua 78 o swyddi cyfwerth ag amser llawn".

Yn y llythyr sydd wedi dod i law Newyddion S4C, dywedodd Yr Athro Burke: "Yn anfoddog ddigon, mae rhan fawr o'n strategaeth i leihau costau’n cynnwys lleihau costau staff, a fydd, yn ôl ein hamcangyfrifon gwreiddiol ni, yn cyfateb i tua 200 o swyddi cyfwerth ag amser llawn. 

"Fodd bynnag, mae cynnydd eisoes wedi'i wneud trwy gyfuniad o ddiswyddiadau gwirfoddol, ymddeoliadau, a pheidio â llenwi swyddi gwag, sydd wedi lleihau ein targed arbedion gweddilliol i tua £5.3 miliwn, sy'n cynrychioli tua 78 o swyddi cyfwerth ag amser llawn."

Esboniai fod y brifysgol yn wynebu nifer o heriau, ac nid oedd yn unigryw ymysg prifysgolion yn hynny o beth.

"Mae llawer o brifysgolion wedi dibynnu’n fwyfwy ar incwm gan fyfyrwyr rhyngwladol i bontio'r bwlch," meddai. 

"Fodd bynnag, mae newidiadau diweddar i bolisi mewnfudo Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi arwain at ostyngiad yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy'n ymrestru, a does dim arwydd fod y sefyllfa honno ar fin newid, ac yn wir mae risg ychwanegol o bosibl os gwir y dyfalu diweddar yn y wasg am gamau rheoli pellach ar fewnfudo. 

"Yn ogystal, mae sefydliadau tariff uchel wedi dechrau gostwng eu gofynion mynediad er mwyn denu rhagor o fyfyrwyr cartref, gan ddwysáu’r gystadleuaeth ar draws y sector."

Dywedodd fod y brifysgol wedi gwneud "cynnydd da iawn o ran lleihau ein gwariant ar gyflogau yn erbyn y targed arbedion o £15 miliwn". 

Mae mesurau eraill y mae'r brifysgol wedi eu cyflwyno "yn cynnwys rheolaeth lem ar wariant ac eithrio cyflogau, cyfyngu gwariant i ddim ond eitemau hanfodol eleni a'r flwyddyn nesaf". 

"Yn ogystal, rydym hefyd wedi gwneud y penderfyniad i leihau maint yr ystad trwy werthu adeiladau segur a byrhau oriau agor ac oriau gwresogi rhai cyfleusterau er mwyn arbed ar gostau cyfleustodau," meddai.

Ymgynghori ar gamau gweithredu

Ychwanegodd fod gwaith ar y gweill ym mhob Coleg ac yn y Gwasanaethau Proffesiynol i ddatblygu "drafftiau o achosion busnes dros newid". 

"Mae'r rhain wedi eu seilio ar ddadansoddiadau manwl ac maent yn ein helpu i ddeall yn well beth yw’r heriau sy'n ein hwynebu, a beth yw'r camau gweithredu y mae angen eu cymryd i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor," meddai.

"Hoffwn sicrhau cydweithwyr a myfyrwyr mai ymgynghoriad yw hwn, yng ngwir ystyr y gair, ac y bydd yr holl adborth yn cael ei ystyried yn ofalus cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol."

Ychwanegodd y bydd y Cynllun Diswyddo Gwirfoddol yn ailagor yn ystod y cyfnod ymgynghori, tan ddydd Gwener 13 Mehefin, "er mwyn rhoi cyfle i gydweithwyr ystyried eu hopsiynau yng ngoleuni'r cynigion".

Mae Cyngor y Brifysgol yn cydnabod, os na lwyddir i gyflawni’r arbedion angenrheidiol yn wirfoddol, y bydd angen gwneud diswyddiadau gorfodol, meddai'r Is-ganghellor. 

"Er i mi obeithio na fyddai angen cymryd y cam hwnnw, mae'n hanfodol ein bod yn cyrraedd ein targed arbedion er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ariannol y Brifysgol. Rwy'n llawn sylweddoli cymaint o bryder ac ansicrwydd y mae'r sefyllfa hon yn ei achosi, a hoffwn eich sicrhau bod y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud yn ofalus ac yn ystyriol."

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.