
Dedfrydu dyn am gadw 50 o gathod mewn amodau anaddas
Mae dyn 60 oed o Rondda Cynon Taf wedi ei wahardd rhag cadw cathod am weddill ei oes, ar ôl i swyddogion yr RSPCA ddarganfod ei fod yn cadw 50 o'r anifeiliad mewn amodau anaddas.
Roedd David Thomas o Aberpennar hefyd wedi torri gorchymyn a oedd yn ei wahardd rhag cadw cathod.
Cafodd 35 o gathod eu hachub o adeilad yn Aberpennar ym mis Hydref 2023, cyn i 15 yn rhagor gael eu symud o'r un safle ym mis Chwefror 2024.
Roedd nifer ohonyn nhw yn cael eu cadw mewn cewyll cyfyng, a oedd yn llawn carthion.

Cafodd David Thomas ei ddedfrydu yn Llys Ynadon Merthyr, ar ôl iddo bledio'n euog mewn gwarandawiad blaenorol y llynedd i ddwy drosedd o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.
Cafodd ei ddyfarnu'n euog o ddau gyhuddiad arall wedi achos llys.
Roedd un o'r troseddau yn ymwneud â thorri gorchymyn yn ei wahardd rhag cadw anifeiliaid.

Roedd Thomas wedi cael ei wahardd rhag cadw cathod yn Llys Ynadon Merthyr ar 13 Medi 2023.
Cafodd ddedfrydau o garchar wedi eu gohirio am 12 mis, a chafodd orchymyn i dalu dros £1,000 o gostau.
