Teyrngedau i dad April Jones wedi ei farwolaeth sydyn
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Paul Jones, tad y ferch fach April Jones a gafodd ei llofruddio ym Machynlleth, Powys yn 2012.
Cafodd April Jones, a oedd yn bump oed, ei chipio ger ei chartref fis Hydref 2012, a chael ei llofruddio gan y paedoffil Mark Bridger.
Cyhoeddodd llysferch Mr Jones, Jazz Jones, fod ei llysdad wedi marw ddydd Mawrth. “Gyda'n calonnau wedi torri, mae fy mrawd a finnau'n rhoi gwybod i chi bod ein tad (Paul Jones) wedi ein gadael yn ystod oriau mân y bore, ” dywedodd.
“Roedd yn annisgwyl, ac rydym mewn sioc
“Bydd Harley a finnau yn eich diweddaru gyda gwybodaeth bellach, pan fyddwn yn gwybod mwy, ond rhowch breifatrwydd i ni os gwelwch yn dda i alaru.”
Dywedodd ffrind i'r teulu Allan Hughes ar gyfryngau cymdeithasol: “Newydd glywed y newyddion trist am ffrind gwirionedddol wych, Paul Jones yn ystod oriau mân fore Mawrth.
“Bydd llawer ohonch yn ei adnabod fel tad April Jones, druan
“Ond rwyf i a llawer mwy yn ei adnabod fel tad gwych, mab, brawd a ffrind.
“Fe gawsom ein magu ym Mhenparcau (Aberystwyth) a chawsom sawl antur.
“Nawr rwyt ti gyda April unwaith eto a dy fam. Cwsg mewn hedd Paul Jones, mae ein meddyliau a'n gweddïau gyda'r teulu.”
Colli cof
Collodd Mr Jones ei gof ar ôl iddo gael cyflwr ar ei ymennydd o'r enw encephalitis yn 2018, a bu'n rhaid iddo ddarganfod am yr eildro fod ei ferch wedi marw.
Eglurodd mam April, Coral Jones, ar y pryd iddi orfod dweud wrtho eto ei fod wedi colli ei ferch.“Holodd ‘Be' ddigwyddodd i April?’ Roedd yn rhaid i mi ddweud wrtho, nad oedd hi bellach gyda ni a'i bod wedi cael ei lladd
“Fe wnaeth e lefain. Roedd hi'n sgwrs ofnadwy, gan ei fod e mor emosiynol, ac roedd hi mor anodd i mi siarad am y peth,” meddai.
Cafodd Mark Bridger ei ddyfarnu'n euog o lofruddio April Jones, ei chipio a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae e wedi gwrthod dweud beth yn union y gwnaeth gyda chorff y ferch fach.
Cafodd rhai gweddillion eu darganfod yn y lle tân yn ei fwthyn ger Machynlleth.
Cafodd ei ddedfrydu i garchar am oes, gyda gorchymyn iddo dreulio gweddill ei oes o dan glo.