Ceredigion: Pleidleisio yn erbyn cynllun dadleuol i adeiladu tai ar faes parcio
Mae cynghorwyr Ceredigion wedi pleidleisio yn erbyn cynllun dadleuol i adeiladu 30 o dai ar faes parcio tref ar lan y môr.
Roedd asiantaeth dai Barcud wedi gwneud cais i godi 30 o dai a fflatiau fforddiadwy ar safle Maes Parcio Canolog yng Nghei Newydd.
Roedd y cynllun wedi hollti barn, gyda dros 2,500 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu.
Roedd swyddogion y cyngor wedi argymell caniatáu y datblygiad ond fe bleidleisiodd wyth o gynghorwyr yn erbyn a phump o blaid.
Ar hyn o bryd mae'r safle'n gweithredu fel maes parcio talu ac arddangos, ac yn cael ei reoli gan Barcud fel menter fasnachol.
Roedd disgwyl y byddai 98 o bobl ychwanegol yn byw yn y tai.
Pe bai wedi cael ei ganiatáu, byddai rhan o'r safle yn parhau i weithredu fel maes parcio, ond gyda 91 o safleoedd yn hytrach na 209 fel sydd yno ar hyn o bryd.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth Lloyd, a bleidleisiodd yn erbyn, y byddai asesiad o effaith economaidd y datblygiad wedi bod o fudd “mawr, mawr”.
“Mewn egwyddor roedden i’n gefnogol ond falle bod y mix o faint o dai a faint o feysydd parcio yn anghywir,” meddai.
“Efallai y byddai yna gain economaidd o gael pobl yn byw yno drwy’r flwyddyn ond colled o ddiffyg meysydd parcio.
“Bydd mwy o bobl yn mynd o gwmpas Cei yn chwilio am faes parcio yn cael effaith negyddol.”
'Siopau ar agor'
Dywedodd y Cynghorydd Maldwyn Lewis ei fod yn annog Barcud i ddod yn ôl gyda “chynllun llawer gwell”.
“Mae angen i’r tai yma fod yn fwy hygyrch i bobl sydd â phroblemau symudoledd.
“Dwi’n credu y byddai dod a chynllun llawer gwell sy’n cynnwys parcio ceir o’n blaenau ni.”
Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, a gadeiriodd y cyfarfod ac a bleidleisiodd o blaid y cynllun, bod “angen y tai”.
“Fe fydden ni’n colli'r llefydd parcio ond fe fydde yna gytundeb cyfreithiol o ran y llefydd parcio sydd ar ôl.
“Falle sa na fwy o bobl yn byw yno yn ystod y gaeaf falle sa mwy o siopau ar agor.”