Dyfodol ansicr i'r bil cymorth i farw
Mae adroddiadau bod o leiaf bump yn rhagor o aelodau seneddol San Steffan yn bwriadu pleidleisio yn erbyn y bil cymorth i farw yn ystod cam nesaf y bleidlais ddydd Gwener.
Pleidleisiodd ASau o 330 i 275, mwyafrif o 55, i gymeradwyo’r bil ar yr ail ddarlleniad ym mis Tachwedd y llynedd.
Bellach mae papur newydd The Guardian wedi cyhoeddi ei bod yn deall y bydd o leiaf bum aelod seneddol a benderfynodd beidio â phleidleisio yn ystod y darlleniad blaenorol, yn pleidleisio yn ei erbyn.
Dyw enwau'r pump ddim wedi eu cyhoeddi. Roedden nhw naill ai wedi penderfynu peidio â bwrw pleidlais, neu doedden nhw ddim yn bresennol adeg y bleidlais ddiwethaf.
Daw wedi i Goleg Brenhinol y Seiciatryddion gyhoeddi ddydd Mercher nad yw bellach yn cefnogi’r mesur “yn ei ffurf bresennol.”
Ddydd Mawrth, fe bleidleisiodd Aelodau Senedd yr Alban o blaid mesur fydd yn galluogi cymorth i farw, o 70 pleidlais i 56.
Fe fydd ASau yn dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin ddydd Gwener i drafod unrhyw newidiadau i’r mesur ac i fwrw pleidlais bellach.
Dyw Llefarydd Tŷ'r Cyffredin, Lindsay Hoyle, ddim wedi penderfynu eto faint o newidiadau fydd i’r mesur, na chwaith sut i strwythuro'r broses bleidleisio.