Charlotte Church i ymddangos yng nghyfres selebs o The Traitors
Mae yna gadarnhad y bydd Charlotte Church yn ymddangos yn y gyfres BBC boblogaidd, The Traitors.
Mae hi ymhlith 19 o sêr gwahanol yn cymryd rhan yn y gobaith o ennill £100,000 ar gyfer elusen o’i dewis.
Yr actor a darlledwr Syr Stephen Fry, y cyflwynydd teledu Kate Garraway, y comedïwr Alan Carr, y gantores Paloma Faith a’r darlledwr Clare Balding yw rhai o’r enwogion eraill fydd yn y gyfres.
Bwriad y rhaglen yw dilyn y cystadleuwyr wrth iddyn nhw geisio darganfod pwy yw’r bradwr yn eu plith. Maent hefyd yn cyflawni cyfres o heriau gwahanol er mwyn ennill arian.Mae’r rhaglen yn cael ei ffilmio mewn castell yn ucheldiroedd yr Alban.
Os yw’r bradwr ymhlith y rhai sydd ar ôl ar ddiwedd y gyfres mae o neu hi yn cael cadw’r arian i gyd.
Ymhlith yr enwau eraill fydd yn cymryd rhan mae'r cyflwynydd Jonathan Ross, y canwr Cat Burns, y deifiwr Tom Daley a’r seren EastEnders Tameka Empson.
Dywedodd cyflwynydd y gyfres, Claudia Winkleman: "Byddwn i wrth fy modd yn dweud y byddwn ni’n gwneud pethau’n haws iddyn nhw ac fe fyddan nhw’n crwydro o amgylch y castell ac yn bwyta tost am ychydig wythnosau, ond celwydd fyddai hynny.”
Cafodd y gyfres ei darlledu gyntaf yn 2022 ac fe fydd y gyfres selebs yn cael ei darlledu yn ystod yr hydref.
Llun: Ben Birchall/PA Wire