
Ceredigion: Disgwyl penderfyniad dros gynllun tai dadleuol mewn maes parcio
Ceredigion: Disgwyl penderfyniad dros gynllun tai dadleuol mewn maes parcio
Mae disgwyl i gais cynllunio i adeiladu tai ar faes parcio tref ar lan y môr yng Ngheredigion gael ei gymeradwyo ddydd Mercher.
Mae swyddogion adran gynllunio Cyngor Ceredigion wedi argymell caniatáu cynllun gan asiantaeth dai Barcud i godi 30 o dai a fflatiau fforddiadwy ar safle Maes Parcio Canolog yng Nghei Newydd.
Ar hyn o bryd mae'r safle'n gweithredu fel maes parcio talu ac arddangos, ac yn cael ei reoli gan Barcud fel menter fasnachol.
Mae’r cynllun wedi hollti barn, gyda dros 2,500 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu.
Mae’r rheini sydd wedi gwrthwynebu’r cais, gan gynnwys y Cyngor Tref, wedi codi pryderon am golli mannau parcio a’i effaith ar y diwydiant twristiaeth. Maent hefyd yn dweud bod yna ddiffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn y dref ar gyfer trigolion.
Mae disgwyl y byddai 98 o bobl ychwanegol yn byw yn y tai.
Pe bai'n cael ei ganiatáu, byddai rhan o'r safle yn parhau i weithredu fel maes parcio, ond gyda 91 o safleoedd yn hytrach na 209 fel sydd yno ar hyn o bryd.
'Gofid mawr'
Mae rhai perchnogion busnesau'r dref ymhlith y rhai sydd wedi lleisio'u gwrthwynebiad i'r cynllun £7.5 miliwn.
Wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C, dywedodd Nerys Church, Perchennog bwyty Blue Bell: “S'dim digon o le i barcio fel ma'i.

"Mae trafnidiaeth mewn i Cei yn rili wael. S’dim bysus yn dod yma ar ddydd Sul, maen nhw di torri lawr oriau bysus hefyd.
"Ar ddiwedd y dydd, ni’n dibynnu ar lefydd i barcio er mwyn bod pobol yn gallu dod i’r traeth a gweld popeth sydd i gael yma yn Cei.”
Dywedodd Sara Powell o Gymdeithas Masnachwyr Cei Newydd: “Ni’n gwerthfawrogi’n llwyr pa mor bwysig yw e i adeiladu tai, ond dim ar y maes parcio fan hyn.
“Mae nifer fawr o broblemau. Mae gofid mawr yn y dref oherwydd os mae cynghorwyr mynd i basio hwn, mae’n mynd i gael effaith negyddol iawn.
"Dim jest ar yr economi, dim jest ar drigolion y dref, ond ar faterion diogelwch hefyd.”
'Sefydlu teulu'
Yn y gorffennol mae Cyngor Ceredigion wedi dweud bod 26% o dai yng Nghei Newydd yn cael eu defnyddio fel ail gartrefi neu lety gwyliau, sef y canran uchaf o unrhyw leoliad yn y sir.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd un dyn ifanc sydd eisiau aros yn yr ardal, Harri Evans: “Fi’n credu bydd codi'r tai fforddiadwy yma yng Nghei Newydd yn ei gwneud hi’n bosib i bobl ifanc prynu tai parhaol i drigolion y dref byw ynddo a sefydlu teulu, ag aros yn y gymuned leol.
"Fi’n credu bod hynny’n bwysig tu hwnt i sicrhau bod e’n digwydd.”
Mae’r cais yn dweud: “Mae’r maes parcio presennol yn cael ei ddarparu fel menter fasnachol, ac nid oes unrhyw rwymedigaeth ar y tirfeddiannwr i barhau i ddarparu cyfleusterau parcio ceir ar gyfer ymwelwyr â Chei Newydd.
“Pe bai’r tirfeddiannwr yn dymuno, gallai’r defnydd o’r tir fel maes parcio ddod i ben ar unrhyw adeg.”
Yn ôl y Cyngor, mae cynllunwyr wedi asesu sawl un o bryderon busnesau lleol, yn unol â pholisïau cynllunio.
Mae disgwyl i bwyllgor cynllunio'r sir wneud penderfyniad dros y cais mewn cyfarfod ddydd Mercher.