Trump yn gwrthod ymddiheuro ar ôl rhannu fideo yn darlunio'r Obamas fel epaod
Mae Donald Trump wedi gwrthod ymddiheuro ar ôl i fideo gael ei rannu ar ei gyfrif Truth Social yn darlunio Barack a Michelle Obama fel epaod, gan ddweud "wnes i ddim gwneud camgymeriad".
Ymddangosodd y darlun tua diwedd y fideo 62 eiliad a oedd yn honni bod etholiad 2020 - a gollodd i Joe Biden - wedi'i ddwyn oddi wrtho.
Roedd y clip yn dangos yr Obamas fel epaod yn dawnsio i gân The Lion Sleeps Tonight. Cafodd ei ddileu'n ddiweddarach.
Dywedodd swyddog yn y Tŷ Gwyn fod aelod o staff wedi "gwneud y post ar gam" a'i fod bellach wedi'i dynnu i lawr.
Yn ddiweddarach, dywedodd Arlywydd yr Unol Daleithiau ei fod "wrth gwrs" yn condemnio'r rhannau hiliol o'r fideo, ond dywedodd na fyddai'n ymddiheuro.
"Na, wnes i ddim camgymeriad," meddai, gan ychwanegu nad oedd wedi gweld y fideo llawn.
Ychwanegodd mai dim ond dechrau'r fideo yr oedd wedi'i weld ac nad oedd yn gwybod ei fod yn cynnwys y darlun hwnnw o'r Obamas.
I ddechrau roedd y Tŷ Gwyn wedi amddiffyn y clip fel "fideo meme", gan ddweud wrth y rhai oedd yn feirniadol i "roi'r gorau i'r dicter ffug".
Ond ar ôl ymateb ffyrnig ar gyfryngau cymdeithasol, cafodd y fideo ei dynnu i lawr.
Nid yw'r teulu Obama wedi ymateb i'r fideo eto.
'Ymddygiad ffiaidd'
Mae'r fideo wedi cael ei feirniadu o bob cwr o'r sbectrwm gwleidyddol.
Dywedodd Kamala Harris, cystadleuydd Democrataidd Mr Trump yn etholiad arlywyddol 2024: "Does neb yn credu'r cover-up hwn gan y Tŷ Gwyn, yn enwedig gan eu bod nhw wedi amddiffyn y post yn wreiddiol.
"Rydym i gyd yn glir ynglŷn â phwy yw Donald Trump a beth mae'n ei gredu."
Dywedodd Ben Rhodes, a wasanaethodd fel dirprwy gynghorydd diogelwch cenedlaethol yn Nhŷ Gwyn Obama, fod Mr Trump yn "staen ar ein hanes".
"Gadewch iddo boeni Trump a'i ddilynwyr hiliol y bydd Americanwyr y dyfodol yn cofleidio'r Obamas fel ffigurau annwyl wrth ei astudio fel staen ar ein hanes," meddai mewn neges ar X.
Mewn neges ar X, fe wnaeth Gavin Newsom, llywodraethwr Democrataidd California, gyhuddo'r arlywydd o "ymddygiad ffiaidd".
Ychwanegodd: "Rhaid i bob Gweriniaethwr gondemnio hyn. Nawr."
Daeth rhywfaint o feirniadaeth o blaid Trump ei hun hefyd.
Dywedodd y Seneddwr Scott, Gweriniaethwr o Dde Carolina a chynghreiriad i Trump, ei fod yn "gweddïo ei fod yn ffug oherwydd dyma'r peth mwyaf hiliol rydw i wedi'i weld yn dod o'r Tŷ Gwyn hwn".
"Dylai'r Arlywydd ei ddileu," ychwanegodd.
Fe wnaeth Gweriniaethwr arall, cynrychiolydd Efrog Newydd Mike Lawler, ddweud bod y fideo yn "anghywir ac yn hynod sarhaus - boed yn fwriadol neu'n gamgymeriad" a dywedodd "y dylid ei ddileu ar unwaith gydag ymddiheuriad yn cael ei gynnig".
Mae gan Trump hanes hir o feirniadu ac ymosod ar Obama.
Cyn ei dymor cyntaf fel arlywydd, roedd Trump yn gwneud honiadau ffug yn rheolaidd bod Obama, a gafodd ei eni yn Hawaii, wedi'i eni yng Nghenia mewn gwirionedd ac felly'n anghymwys i fod yn arlywydd.
Yn ddiweddarach, fe wnaeth gydnabod fod Obama wedi'i eni yn yr Unol Daleithiau.