Y Chwe Gwlad: 'Does dim un gêm yn fwy na Chymru yn erbyn Lloegr'

Y Chwe Gwlad: 'Does dim un gêm yn fwy na Chymru yn erbyn Lloegr'

Fe fydd Cymru yn wynebu Lloegr yn Twickenham ddydd Sadwrn, gan obeithio am ganlyniad gwell na’r golled o 14-68 yn erbyn y Saeson yng ngêm olaf y bencampwriaeth y llynedd.

Dewi Lake fydd yn arwain y tîm fel capten wrth i Tandy gymryd yr awenau yn ei gêm Chwe Gwlad gyntaf fel hyfforddwr Cymru, gyda Louis Rees-Zammit yn dechrau yn safle’r cefnwr.

Mae Cymru wedi colli 21 o'u 23 gêm ryngwladol ddiwethaf gyda dwy fuddugoliaeth yn unig yn erbyn Japan, yn Kobe ac yng Nghaerdydd y llynedd. 

Y tro diwethaf i Gymru ennill gêm yn y Chwe Gwlad oedd ym mis Mawrth 2023, a hynny yn erbyn Yr Eidal yn Rhufain.

Fe ddywedodd Rees-Zammit nad oes "unrhyw gêm yn fwy na Chymru yn erbyn Lloegr". 

"Mae'n teimlo fel tîm newydd yn dod at ei gilydd. Pan mae gennych chi staff hyfforddi newydd a syniadau gwahanol, mae'n teimlo fel bod pawb yn dechrau teimlo'n fwy ffres ac ein bod ni'n dechrau o'r dechrau.

"Mewn rhai mannau, fe wnaethom ni ddangos perfformiadau da yn yr hydref, ond mae angen i ni fod yn gwneud hynny yn gyson am yr 80 munud llawn."

'Hanes'

Mae Lloegr yn y cyfamser yn gobeithio ennill eu teitl Chwe Gwlad cyntaf mewn chwe blynedd, wedi iddyn nhw ennill 11 gêm yn olynol ar drothwy'r bencampwriaeth. 

Fe fyddan nhw heb Immanuel Feyi-Waboso ar gyfer y gêm wedi iddo ddioddef anaf i'w goes. 

Fe gafodd Feyi-Waboso ei eni yng Nghaerdydd, ac fe gynrychiolodd Gymru o dan 18 oed cyn mynd ymlaen i gynrychioli Lloegr ar lefel ryngwladol. 

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Steve Tandy: "Mae Cymru’n erbyn Lloegr bob amser yn gêm arbennig. 

"Ry’n ni gyd yn gwybod am yr hanes rhwng y ddwy wlad ar y maes rygbi ac ry’n ni gyd hefyd yn gwybod eu bod nhw’n chwarae rygbi gwych ar hyn o bryd.

"Mae’r garfan wedi ymarfer yn arbennig yr wythnos yma. Rydw i eisiau gweld ni’n mynd mas i’r maes ddydd Sadwrn a rhoi’r perfformiad gorau posib y gallwn ni. 

"Mae dechrau ein hymgyrch yn y Chwe Gwlad yn Twickenham yn tynnu dŵr i’r dannedd a dyw’r bechgyn methu ag aros."

Mae'r ansicrwydd cynyddol yn ymwneud â rygbi yng Nghymru yn parhau, gyda chefnogwyr y Gweilch yn cynnal protest yr wythnos diwethaf yn gwrthwynebu'r posibilrwydd y gallai Undeb Rygbi Cymru gael gwared ar y rhanbarth.

Mae’n fwriad gan URC i ailstrwythuro’r drefn bresennol ac mae pryderon bod yr Undeb yn ffafrio uno’r Gweilch â Chaerdydd.

Mae'r Undeb yn dweud fod yn rhaid newid pethau i sicrhau dyfodol llewyrchus i dimau proffesiynol Cymru.

Fe fydd Cymru yn herio Lloegr yn Twickenham brynhawn Sadwrn, gyda'r gic gyntaf am 16:40, a'r gêm yn fyw ar S4C.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.