'Dim angen i fodurwyr newid eu harferion gyrru o achos yr argyfwng olew'
Ni ddylai modurwyr yrru'n arafach na phrynu tanwydd ychwanegol oherwydd yr argyfwng olew.
Dyma oedd cyngor gweinidog ynni Llywodraeth y DU, Michael Shanks, mewn cyfweliad gyda Times Radio pan ofynnwyd iddo a ddylai gyrwyr newid eu harferion.
Mae pris olew wedi cynyddu yn gyflym ers i'r rhyfel yn y Dwyrain Canol ddechrau ddiwedd Chwefror.
Wrth fanylu ar ei gyngor, dywedodd “Dylent wneud popeth fel arfer oherwydd nid oes prinder tanwydd yn unman yn y wlad ar hyn o bryd.
"Rydym yn monitro hyn bob dydd, rwy'n edrych ar y niferoedd yn bersonol. Nid oes unrhyw broblem o gwbl gyda hynny.”
Ychwanegodd Mr Shanks: “Dylai pobl fynd ati fel arfer. Dyna beth mae'r RAC a'r AA wedi'i ddweud. Mae'n bwysig iawn bod pobl yn gwneud hynny.
“Nid oes prinder tanwydd ac mae popeth yn gweithio fel arfer.”
Pan ofynnwyd iddo a ddylai gyrwyr arafu eu cyflymder, atebodd Mr Shanks: “A bod yn onest, ni ddylai pobl newid eu hymddygiad na'u harferion o gwbl.”
Dydd Llun pris cyfartalog litr o betrol di-blwm yn y DU oedd 144.2c, cynnydd o 3.9c o wythnos i wythnos a naid o 12.0c ers dechrau mis Mawrth. Daeth y ffigyrau gan yr Adran Diogelwch Ynni a Sero Net.
Dyma'r pris uchaf am betrol di-blwm ers Gorffennaf 2024.
Roedd pris cyfartalog litr o ddisel yn 166.9c ddydd Llun, cynnydd o 8.1c o wythnos i wythnos a chynnydd o 24.7c ers dechrau'r mis.
Dyma'r pris uchaf am ddisel ers Mawrth 2023.