Perchnogion anifeiliaid anwes i dalu dim mwy na £21 am bresgripsiynau milfeddygol

Cwn bach

Ni fydd yn rhaid i berchnogion anifeiliaid anwes dalu mwy na £21 am bresgripsiynau milfeddygol o ddiwedd y flwyddyn, meddai corff gwarchod cystadleuaeth y DU.

Yn ôl yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) bydd y newidiadau yn helpu perchnogion anifeiliaid anwes i lywio’r farchnad gwasanaethau milfeddygol yn well.

Bydd mesurau eraill yn cynnwys cyflwyno gwefan cymharu prisiau i hybu cystadleuaeth a gostwng prisiau.

Dywedodd y CMA y bydd y newidiadau yn dechrau cael eu cyflwyno cyn y Nadolig, gan gynnwys rhestrau prisiau ar gyfer gwasanaethau.

Daw'r newidiadau ar ôl i'r awdurdod ddarganfod bod ffioedd milfeddygol wedi codi bron ddwywaith cyfradd chwyddiant rhwng 2016 a 2023.

Dywedodd Martin Coleman, cadeirydd y Grŵp Ymchwiliad annibynnol: "Bydd y diwygiadau yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’r miliynau o berchnogion anifeiliaid anwes sydd eisiau’r gorau i’w hanifeiliaid anwes ond sy’n cael trafferth dod o hyd i’r practis, y driniaeth a’r pris sy’n diwallu eu hanghenion.

"Yn rhy aml, mae pobl yn cael eu gadael yn y tywyllwch am bwy sy’n berchen ar eu practis, opsiynau triniaeth a phrisiau – hyd yn oed pan fyddant yn wynebu biliau sy’n rhedeg i filoedd o bunnoedd.

"Mae ein mesurau’n golygu y bydd yn cael ei gwneud yn glir i berchnogion anifeiliaid anwes pa bractisau sy’n rhan o grwpiau mawr, pa rai sy’n codi prisiau uwch, ac am y tro cyntaf, bydd busnesau milfeddygol yn cael eu dwyn i gyfrif gan reoleiddiwr annibynnol."

'Cam cadarnhaol iawn'

Dywedodd y CMA y bydd yn rhaid i filfeddygfeydd gyhoeddi rhestr brisiau ar gyfer eu gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys ymgynghoriadau, gwasanaethau diagnosteg a phresgripsiynau ysgrifenedig.

Ni fydd yn rhaid i berchnogion anifeiliaid anwes dalu mwy na £21 am y feddyginiaeth gyntaf a £12.50 am unrhyw feddyginiaethau ychwanegol.

Bydd yn rhaid i filfeddygfeydd hefyd ddarparu amcangyfrif ysgrifenedig ymlaen llaw ar gyfer unrhyw driniaeth allai gostio £500 neu fwy yn ogystal â bil manwl, gan eithrio gofal brys.

Bydd prisiau a gwybodaeth am bwy sy'n berchen ar y filfeddygfa ar gael drwy wasanaeth 'Dod o Hyd i Filfeddyg' Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Milfeddygol.

Bydd yn rhaid i fusnesau egluro a ydynt yn rhan o grŵp neu'n fusnes annibynnol, gyda'r manylion i'w harddangos ar arwyddion yn y feddygfa ac ar-lein.

Dywedodd llywydd Cymdeithas Filfeddygol Prydain, Rob Williams: "Mae mwyafrif mesurau’r CMA yn canolbwyntio ar gynyddu tryloywder a gwybodaeth, a fydd yn helpu perchnogion anifeiliaid anwes i wneud dewisiadau mwy gwybodus a chefnogi cystadleuaeth, sy’n gam cadarnhaol iawn."

Ychwanegodd: "Mae darparu meddygaeth filfeddygol arbenigol yn gostus. Er ein bod yn cydnabod bod prisiau wedi codi’n sydyn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae hyn oherwydd nifer o ffactorau, gan gynnwys y costau uwch y mae pob busnes yn eu profi – ac nid yw practisau milfeddygol wedi eu heithrio.

Dywedodd hefyd bod datblygiadau dros yr 20 mlynedd diwethaf yn golygu bod milfeddygon erbyn hyn yn gallu "reoli clefydau ac anafiadau mewn anifeiliaid" llawer mwy. Yn y gorffennol byddai'r anifail wedi cael ei rhoi i lawr. 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.