Gwynedd: Ymosodiad honedig ar ddynes ifanc gan grŵp o bobl

Stryd Fawr Porthmadog

Mae'r heddlu'n cynnal ymchwiliad yn dilyn adroddiadau fod grŵp o bobl wedi ymosod ar ddynes ifanc mewn tref yng Ngwynedd.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion i'r ymosodiad honedig ar Stryd Fawr Porthmadog, yn agos i orsaf betrol Tesco, am tua 20.00 ar nos Sadwrn 21 Mawrth.

Dywedodd llefarydd ar ran y llu: "Rydym yn deall fod sawl car wedi teithio yn y lleoliad ar yr un amser felly rydym yn apelio i ddefnyddwyr ffordd i wirio os oes ganddyn nhw luniau dash-cam o'r digwyddiad."

Mae modd i unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth neu luniau o'r digwyddiad, i gysylltu â'r llu drwy eu gwefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r cyfeirnod 26000227209.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.