'Pobl sy'n byw mewn ardaloedd difreintiedig yng ngogledd Cymru yn wynebu risg uwch o ganser'
Mae pobl sydd yn byw mewn rhai ardaloedd “difreintiedig” yng ngogledd Cymru yn wynebu risg 20% yn uwch o dderbyn diagnosis canser o gymharu ag ardaloedd eraill.
Dyna yw canfyddiad adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod misol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yr wythnos hon.
Mae’r adroddiad yn cynnig “trosolwg strategol o ganser yng ngogledd Cymru”. Y bwriad yw ceisio gwella lefelau atal, diagnosis cynnar a thriniaeth a hefyd edrych ar y gwasanaethau sydd ar gael a’r heriau y maent yn eu hwynebu.
Mae’r adroddiad yn datgan fod Sir Ddinbych, a’r Rhyl yn enwedig, yn ardal sydd â lefelau uwch o risg o ganser oherwydd lefelau uwch o amddifadedd.
“Mae cydberthynas glir rhwng amddifadedd a chyfraddau canser uwch, ac mae gan ogledd Cymru rai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, yn bennaf yn Sir Ddinbych.”
Yn ôl adroddiad Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2025 a gafodd ei ryddhau gan Lywodraeth Cymru'r llynedd, mae pedair o’r 10 ardal fwyaf difreintiedig yng Nghymru wedi’u lleoli yn Y Rhyl.
Mae’r ddwy ardal sydd uchaf ar y mynegai hwnnw, "Gorllewin y Rhyl 2" a "Gorllewin y Rhyl 1" yn ardaloedd â risgiau canser uwch.
Mae “Queensway 1” yn Wrecsam yn drydydd ar y tabl risg tra bod ardaloedd “Gorllewin y Rhyl 3” (Sir Ddinbych); “De-orllewin y Rhyl 3” (Sir Ddinbych); “Glyn 2” (Conwy); “Wynnstay” (Wrecsam); “De-orllewin y Rhyl 1” (Sir Ddinbych); “Abergele Pensarn 2” (Conwy); a “Tudno 2” (Conwy) hefyd yn ardaloedd sydd â risg uwch.
Mae'r adroddiad yn dweud: “Mae nifer yr achosion o ganser ledled Cymru wedi cynyddu tua 31% dros y ddau ddegawd diwethaf.
“Mae nifer yr achosion o ganser tua 20% yn uwch yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru o'i gymharu â'r ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru.
“Mae gogledd Cymru yn profi cyfraddau achosion uwch na chyfartaledd Cymru gyfan, sy'n adlewyrchu'n bennaf y proffil poblogaeth hŷn.”
'Cynnydd wedi arafu'
Daw’r adroddiad wedi i Bwyllgor y Senedd ddod i'r casgliad fis diwethaf fod anghydraddoldeb o ran goroesi canser yn parhau ledled Cymru.
Mae’r ddogfen i Fwrdd Betsi Cadwaladr yn nodi “gwelliant yng nghyfraddau goroesi canser dros y ddau ddegawd diwethaf, ond mae'r cynnydd wedi arafu’n ddiweddar.
"Mae lefelau goroesi canser yn gwaethygu gyda lefelau cynyddol o amddifadedd, yn aml o ganlyniad i gyflwyniad hwyr y cyflwr.”
Mae lefelau goroesi canser yng ngogledd Cymru yn “cyd-fynd â lefel cyfartalog ar draws Cymru, yn gyffredinol”, gyda 63% yn goroesi pum mlynedd.
“Ond fe ddylai gael ei nodi bod Cymru yn parhau yn yr hanner isaf wrth gymharu’n rhyngwladol.”
Mae'r adroddiad yn nodi fod Cynllun Gwella Llwybr Canser a Amheuir wedi'i ddatblygu ym mis Medi 2025, gan arwain at “gynnydd cyson wrth wella llwybrau canser ar draws y prif safleoedd tiwmor”.
Ymhlith y meysydd sydd wedi gwella mae amseroedd aros ar gyfer canser y fron a chanser y croen; triage dan arweiniad nyrsys “i gyflymu mynediad at endosgopi”; a chapasiti i ddechrau biopsi prostad ychwanegol.