Pobl yn ardaloedd difreintiedig Cymru 'yn aros yn hirach am driniaeth canser'
Mae anghydraddoldeb o ran goroesi canser yn parhau ledled Cymru, gyda phobl mewn ardaloedd difreintiedig yn cael eu taro waethaf, yn ôl adroddiad pwyllgor yn y Senedd.
Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd yn dweud bod unigolion o gymunedau difreintiedig yn wynebu mwy o oedi nag eraill wrth ddisgwyl am driniaeth canser.
Dywedodd bod yna fwlch rhwng nifer y bobl sy’n goroesi canser am gyfnod o bum mlynedd, a bod hynny’n parhau i dyfu.
Ychwanegodd y Pwyllgor eu bod hefyd yn bryderus fod Llywodraeth Cymru yn methu eu targedau o ran triniaeth amserol.
Ac er bod gwelliannau wedi cael eu gwneud mewn rhai meysydd, mae'r Pwyllgor yn rhybuddio bod Cymru yn parhau i fod ar ei hôl hi o'i chymharu â gwledydd eraill y DU a gwledydd cymharol yn rhyngwladol.
Dywedodd Mark Isherwood AS, Cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus: “Mae cleifion canser a'u teuluoedd yn haeddu gwell na lefel y perfformiad rydym yn ei gweld yng Nghymru.
“Mae amseroedd aros yn parhau i fod yn annerbyniol, mae anghydraddoldeb yn ehangu, ac mae diwygiadau hanfodol yn symud ymlaen yn llawer rhy araf.
“Rhaid i'r Llywodraeth afael ynddi ar frys – oherwydd, heb arweinyddiaeth genedlaethol bendant, bydd canlyniadau canser yng Nghymru yn parhau i fod yn is na'r hyn y mae cleifion yn ei haeddu ac yn iawn i’w ddisgwyl.”
'Methu targedau'
Mae gan y Llywodraeth darged o 62 diwrnod ar gyfer dechrau triniaeth canser, gydag uchelgais o gyrraedd 75% o bobl yn ystod y cyfnod hwn.
Ond yn ôl y data diweddaraf dim ond 58% o driniaethau sy'n dechrau cyn y targed, gyda’r ffigwr wedi aros rhwng 52% a 64% ers 2020.
Yn achos rhai mathau o ganserau – gan gynnwys canserau gynaecolegol, wrolegol a gastroberfeddol isaf – mae llai na hanner y cleifion yn dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod.
Mae oedi rhwng diagnosis a thriniaeth hefyd wedi gwaethygu. Rhwng mis Chwefror 2021 a mis Tachwedd 2025, fe gododd 48% gyda phobl yn disgwyl 31 diwrnod, o gymharu â 21 diwrnod ynghynt.
Roedd yn ymateb hefyd i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Wasanaethau Canser yng Nghymru a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2025.
Yn ôl eu gwaith ymchwil, mae’r gyfradd goroesi pum mlynedd yn 69% i bobl sy’n byw yn yr ardaloedd “mwyaf cyfoethog” – o gymharu â 51% yn y “rhannau mwyaf difreintiedig.”
'Mwy i'w wneud'
Dywedodd y Pwyllgor eu bod bellach yn galw am ymyrraeth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i helpu i gynyddu nifer y bobl sy'n cael eu sgrinio am ganser.
Maen nhw hefyd yn galw ar y Llywodraeth i fynd i’r afael â gwendidau yng ngofal canser yng Nghymru drwy egluro pwy sy'n gyfrifol am arwain gwelliant mewn gwasanaethau canser yn genedlaethol a sut y bydd Llywodraeth Cymru yn dwyn byrddau iechyd i gyfrif.
Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio gyda'r GIG i wella gofal canser, gan gynnwys mynediad cynharach at ddiagnosis a thriniaeth. Canser yw un o'r achosion mwyaf cyffredin o salwch a marwolaeth yng Nghymru – mae mwy i'w wneud i atal canser a dysgu trwy ymchwil.
"Rydym wedi buddsoddi degau o filiynau o bunnoedd mewn cyfleusterau canser newydd, offer, systemau digidol, hyfforddiant gweithlu, triniaethau, sgrinio a gwasanaethau diagnostig.
"Rydym yn cefnogi byrddau iechyd i wella amseroedd aros canser fel rhan o'n Rhaglen Adfer Canser gwerth £2m, sy'n newid sut mae gwasanaethau yn cael eu darparu i wella mynediad."
Ymateb y pleidiau
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Mabon ap Gwynfor AS bod "camreolaeth Llafur o’r gwasanaeth iechyd" wedi arwain at "rai o’r cyfraddau goroesi cancr gwaethaf yn y byd datblygedig, gydag anghydraddoldeb gwledig, rhywedd a hil mewn gofal cancr yn parhau yma yng Nghymru."
"Mae’n siomedig fod Cymru yn parhau fel yr unig wlad yn y DU heb strategaeth cancr er mwyn mynd i’r afael â’r heriau yma, a bod Llafur heb chwaith gweithredu’n ddigonol ar dlodi yn ein cymunedau," meddai.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet Cysgodol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig, Peter Fox AS bod "methiant dro ar ôl tro i gyrraedd y targed 62 diwrnod yn achosi oedi i gleifion sydd angen sganiau a thriniaeth ar frys."
“Mae’r diffyg mynediad amserol hwn yn creu gofid diangen ac yn peryglu bywydau," meddai.
Dywedodd James Evans AS dros Reform UK ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed bod amseroedd aros am yn "parhau’n annerbyniol o hir."
“Nid yw’n iawn bod Cymru’n llusgo cymaint ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o’r DU."
Dywedodd llefarydd ar ran Democratiaid Rhyddfrydol Cymru y dylai'r adroddiad "deffro" gweinidogion yng Nghymru.
"Ni ddylai canlyniadau canser ddibynnu ar ble rydych yn byw na faint rydych yn ei ennill, ond mae gormod o gleifion yn parhau i wynebu oedi a ‘loteri cod post’ o ran mynediad at ofal."
Mae Newyddion S4C hefyd wedi cysylltu gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru am ymateb, yn ogystal â'r Blaid Werdd yng Nghymru.