'Y gwaith ar Bont y Borth wedi achosi poen meddwl mawr i ni fel busnes'

'Y gwaith ar Bont y Borth wedi achosi poen meddwl mawr i ni fel busnes'

Mae perchennog busnes yn dweud fod gwaith cynnal a chadw Pont y Borth yn 'amharu yn fawr ar fusnesau bach yn ardal Bangor'.

Mae Sarah Humphreys a'i gŵr yn rhedeg busnes sy’n cynnal dosbarthiadau ffitrwydd a karate mewn adeilad ar stâd Treborth ym Mangor. 

Mae'r peirianwyr sy'n gwneud y gwaith o atgyweirio'r bont rhwng Ynys Môn a'r tir mawr wedi dweud y bydd y gwaith yn parhau tan o leiaf dechrau 2027.

Yn ôl UK Highways A55 Ltd, maen nhw'n ymdrechu i sicrhau cyn lleied o darfu ag sy'n bosibl.  

Yn wreiddiol roedd disgwyl i’r gwaith ddod i ben yn y gwanwyn eleni, ond wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen, mae'r sefyllfa yn parhau i "achosi poen meddwl mawr" i Sarah a'i gŵr, Robin.

Dywedodd Sarah wrth Newyddion S4C ei bod hi wedi gweld cwymp sylweddol yn y nifer sy’n gallu mynd i'r dosbarthiadau, gyda'r gwaith cynnal a chadw ar Bont y Borth yn ffactor sydd wedi cyfrannu at hyn.

"Hefo’r holl waith sydd wedi bod yn mynd ymlaen ar Pont Menai, ma’r traffig a’r traffic lights a’r flow traffig on ac off a ballu ‘di creu effaith mawr arna ni fel busnesau bach," meddai wrth Newyddion S4C

"Ochr Bangor ‘da ni, ar hyd lôn Treborth lle ma’ ‘na lot o fusnesau bach yma a ma’ cael access i fewn i fa’ma trw’r holl draffig yn warthus.

Ychwanegodd: "Mae o wedi amharu yn fawr iawn arna ni fel busnesau bach, 'di colli cwsmeriaid, a heina 'di'r cwsmeriaid sydd 'di trio dod i fewn ac yn methu.

"Does 'na nunlla i barcio yma, ma'r traffig a'r fans gwaith a'r loris ar hyd y lôn a does 'na nunlla i'r cwsmeriaid barcio o gwbl."

'Dim cefnogaeth'

Mae Sarah a Robin yn pryderu y gallant golli mwy o gwsmeriaid oherwydd y gwaith parhaus.

"I ni fel busnesau bach ochr Bangor, ‘dan ni heb ’di gael dim gwybodaeth na cefnogaeth rili efo bob dim sy’n mynd ymlaen yma, ers iddyn nhw gychwyn o’r dechra’ gyda Bont Menai," meddai.

"I fod yn onast, ma’n boen meddwl mawr arna ni, fel rhedeg busnas o ddydd i ddydd, poen meddwl gorfod cychwyn yn gynt o’n nhŷ i drio dod yma ar amser i cwsmeriaid, ydw i’n mynd i golli mwy o gwsmeriaid? Ydy’r cwsmeriaid yn mynd i ddal arni i fod yma efo ni?

"Mae o’n boen meddwl, cadw’n teulu ni, cadw busnas ni’n rhedag, mae o jyst yn boen o ddydd i ddydd."

Mae Newyddion S4C wedi siarad â busnesau eraill yn yr un ardal, sydd wedi mynegi'r un pryderon â Sarah, ac yn poeni am effaith y gwaith ar y bont ar eu busnesau. 

Maen nhw'n dweud bod y diffyg gwybodaeth a chyfathrebu gyda'r awdurdodau yn ychwanegu straen ar y cwmnïau.

Ychwanegodd Ms Humphreys ei bod yn teimlo nad oes cymaint o sylw yn cael ei roi i'r effaith ar fusnesau bach ar y tir mawr. 

"Dwi'n teimlo bod y busnesau i gyd wedi cael eu heffeithio, dwi'n meddwl i gychwyn bo' nhw wedi sylweddoli bod 'na broblema' yn mynd i fod efo busnesau Menai Bridge a bo' neb yn gael drwadd ata nhw," meddai.

"Ond ar y llaw arall, 'da ni ar ochr Bangor yn cael ein heffeithio yr un faint 'swn i'n ddeud oherwydd 'di pobl ddim yn mynd i droi fyny."

'Amynedd a chydweithrediad'

Dywedodd llefarydd ar ran UK Highways A55 Ltd: "Mae'r gwaith hwn yn hanfodol er mwyn diogelu a gwarchod Pont Grog Menai. 

"Gwneir pob ymdrech i leihau'r tarfu ar y gymuned leol a busnesau. Tynnwyd y rheoli traffig oddi ar y Bont gyda'r nos ar 19eg Mawrth yn dilyn gosod y platfform AeroTruss olaf. Mae'r rhaglen waith ddiwygiedig yn cynnwys llai o reoli traffig a tharfu na'r cynlluniau blaenorol.

"O ran y materion penodol a nodwyd, mae UK Highways A55 Ltd yn cychwyn trafodaethau gyda'i is-gontractwyr ynglŷn â sut i reoli parcio yn y dyfodol. 

"Diolchwn i drigolion lleol am eu hamynedd a'u cydweithrediad."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.