Cefnogaeth i'r penderfyniad i ddarlledu drama ddadleuol am Huw Edwards
Mae un o actoresau mwyaf blaenllaw Cymru gafodd ei chamdrin pan oedd hi’n blentyn, wedi dweud ei bod hi’n cefnogi penderfyniad Channel 5 i ddarlledu drama ddadleuol am y cyn-gyflwynydd newyddion Huw Edwards.
Fe fydd y ddrama Power:The Downfall of Huw Edwards yn cael ei darlledu ar Channel 5, nos Fawrth am 21:00.
Yn ôl Sera Cracroft sy'n chwarae rhan Eileen yn Pobol y Cwm, mae hi wedi siomi ond ddim yn synnu bod rhai yn feirniadol o'r penderfyniad i greu drama am hanes y cyn-gyflwynydd newyddion BBC blaenllaw.
Ym mis Medi 2024, fe gafodd Huw Edwards ddedfryd o chwe mis o garchar wedi ei gohirio am ddwy flynedd am fod â delweddau anweddus yn ei feddiant, oedd yn cynnwys 41 o ddelweddau o blant.
Roedd saith o'r lluniau yn ei feddiant yn perthyn i'r categori mwyaf difrifol - sef categori A - ac roedd wedi derbyn y lluniau mewn negeseuon whatsapp gan ddyn arall.
Cyn hynny, roedd Edwards wedi cael ei enwi ym mhapurau Llundain ym mis Gorffennaf 2023, fel y cyflwynydd teledu oedd wedi talu llanc am ddelweddau o'i hun, er doedd dim tystiolaeth o dor cyfraith yn ôl Heddlu'r Met.
Roedd Edwards a'r dyn ifanc wedi bod yn cyfathrebu drwy negeseuon ffôn ers pan roedd y llanc yn 17 oed.
Beirniadaeth
Fe wnaed rhai sylwadau beirniadol gan aelodau'r cyhoedd ar wefan Facebook Newyddion S4C am y penderfyniad i greu'r ddrama yn y lle cyntaf :
"Dim angen hyn o gwbl, mae Huw Edwards wedi cael ei gosb a'i fywyd yn racs."
"Amser gadael llonydd."
"Pwy sydd angen gweld hyn."
"Ddim yn meddwl bod angen rhaglen fel hyn i godi crachod."
Roedd sylwadau eraill yn cefnogi penderfyniad Channel 5 i gynhyrchu'r ddrama, a’r actores Sera Cracroft yn cytuno.
"Roeddwn i wedi siomi ond ddim wedi synnu (gan y sylwadau). Rwy'n ymwybodol iawn o bobl sydd yn dweud 'Pam 'da chi'n son am hyn. Mae hwnna wedi bod, mae hwnna yn y gorffennol.' Ond diffyg dealltwriaeth yw hynny a'r unig ffordd i ddymchwel hynny yw trwy drafod y peth a chywiro pobl a dangos maint y broblem."
Roedd hi'n dweud nad oedd hi'n synnu bod drama wedi cael ei chreu am gwymp Huw Edwards
"Sgen i ddim problem bod y fath gyfres wedi ei chreu. Mae yna drosedd wedi digwydd ynglŷn â phethau eraill felly 'dw i ddim yn synnu. Roedd e'n berson enwog ac mae'n dangos bod y math yna o bethau yn digwydd ymhob haen o gymdeithas. Os dyw pobl ddim eisiau ei wylio, sdim rhaid iddyn nhw."
Datganiad
Mae Huw Edwards wedi cyhoeddi datganiad egsliwsif i'r Daily Mail ddydd Llun yn honni nad oedd 'na unrhyw ymgais gan y cwmni cynhyrchu i wirio ffeithiau gyda fe cyn creu’r ddrama.
Dywedodd Edwards ei fod yn ymddiheuro yn ddiffuant am ei droseddau. Mae'n dweud bod y ddrama gan Channel 5 yn ymdrin â honiadau gwahanol ac mae'n dweud na wnaed ymgais i wirio ffeithiau gyda fe cyn iddi gael ei chynhyrchu, dim ond gofyn am ymateb, ar ôl iddi gael ei chwblhau.
Honnodd Edwards bod y llanc wedi newid ei stori, a bod hi'n anhebygol y byddai drama Channel 5 yn cyfleu realiti'r hyn ddigwyddodd.
Dywedodd Edwards bod "cyflwr ei iechyd yn fregus" a'i fod e wedi "dioddef problemau iechyd meddwl am 25 mlynedd." Mae Newyddion S4C hefyd wedi ceisio cysylltu â Huw Edwards.
Yn ôl yr Athro Jamie Medhurst o Adran Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth, does dim "llawer i'w ennill" o greu drama am yr hyn sydd wedi digwydd.
"D'wi'n gofyn y cwestiwn beth sydd i'w ennill ? Ni'n gwybod yr hanes a beth sydd wedi digwydd. Yn sicr mae yna bobl wedi dioddef. Mae e wedi bod drwy'r llysoedd ac yn y blaen. D'wi ddim yn gweld, yn bersonol, bod llawer iawn i'w ennill o greu drama."
Mae'n cyfaddef, serch hynny, "bod yna ddiddordeb mawr" yn y ddrama.
"Mae yn y natur ddynol i eisiau gwylio straeon ynglŷn a phobl sydd yn amlwg, a mewn grym. Power yw teitl y ddrama. Mae yna rywbeth sydd yn gyrru ni i wylio pethau fel hyn."
Gwrthod honiadau Huw Edwards mae Channel 5.
Dywedodd y sianel: "Mae Power:The Downfall of Huw Edwards yn seiliedig ar gyfweliadau helaeth gyda'r dioddefwr, ei deulu, y newyddiadurwyr a dorrodd y stori, negeseuon rhwng Edwards a'i ddioddefwr ac adroddiadau o'r llys.
"Mae'r ddrama wedi ei chynhyrchu yn unol â Chod Darlledu Ofcom.
"Mae'r holl gyhuddiadau sydd wedi eu gwneud ar y rhaglen wedi eu trosglwyddo i Huw Edwards drwy ei gyfreithwyr chwe wythnos cyn y dyddiad darlledu."
Fe fydd y ddrama i'w gweld ar Channel 5 am 21:00 nos Fawrth.