Richard Parks: O chwarae rygbi i Gymru i weithio gyda Will Smith

Richard Parks gyda grog o'i hunain ym Mharc Bute yng Nghaerdydd

Ar fore braf yng Nghaerdydd, mae Richard Parks yn paratoi brecwast i'w fab Fred yn eu cegin.

Daw'r bachgen i'r ystafell yn gwisgo gwisg rygbi Cymru o dan ei ddillad ysgol - arwydd o'r hyder newydd sydd yng ngharfan Cymru ar ddiwedd y Chwe Gwlad meddai ei dad.

Mae ef ei hun wedi chwarae rygbi i Gymru, cyn troi i fod yn anturiaethwr rhyngwladol.

Roedd dymuniad Fred i wisgo'r crys coch i'r ysgol yn adlewyrchiad o'r argraff y cafodd ymgyrch diweddar Gymru yn y Chwe Gwlad ar blant ledled y wlad, yn ôl Richard.

Mewn cyfweliad gyda Newyddion S4C, dywedodd y cyn blaenasgellwr rhyngwladol: 'Ti'n gwybod be'? Rydw i wir yn falch o'i hunaniaeth Gymreig. Yn wirioneddol falch ohono.

"Dwi'n rili balch o'r grŵp yma o chwaraewyr cenedlaethol a'r grŵp hyfforddi yma achos, fel Fred y bore 'ma, mae oherwydd y dewrder a'r daith y mae'r bechgyn cenedlaethol wedi bod arni.

"Tua 18 mis yn ôl, bydde fe (Fred) wedi gwneud hyn? Siŵr o fod, na.

"Ond mae'r daith y mae'r tîm cenedlaethol hwn wedi bod arni - a'r ffaith eu bod nhw wedi gorfod ei wneud o dan y chwyddwydr, yn y bowlen bysgod aur, a'r ffordd y mae'r grŵp hyfforddi wedi bod yn agored ac yn ddewr am y daith a'r ffordd y mae'r chwaraewyr yn siarad ar ôl y gemau."

Ychwanegodd bod y cyfnod hwn wedi bod yn "gwbwl wahanol" i'r ymgyrchoedd blaenorol, a does dim "wal yn bodoli rhwng y cyfryngau, y ffans a'r tîm."

"O ganlyniad i hynny, mae nhw 'di dal Fred. Maen nhw 'di ennill ei galon a'i feddwl, ac yn fy llygad i, mae hwnna yn beth hyfryd. A dyna beth mae rygbi i gyd amdano i mi."

Image
Richard Parks gyda 'Grog' o'i hun yn ei kit Pontypridd RFC

Cymunedau wrth galon rygbi

Dros 13 o flynyddoedd fel chwaraewr proffesiynol, fe wnaeth Richard gynrychioli Casnewydd a Phontypridd cyn i'r system ranbarthol cael ei sefydlu. Yn ystod ei gyfnod yn Sardis Road, fe enillodd y cyntaf o'i bedwar cap dros Gymru.

Fe aeth ymlaen i gynrychioli Celtic Warriors am dymor yn 2003, cyn symud i Loegr i chwarae dros Leeds ac yna Perpignan yn Ffrainc.

Daeth yn ôl i Gymru yn 2007 ar ôl arwyddo i'r Dreigiau ond yn 2009, cafodd y cyngor i ymddeol ac yntau'n 31 oed, ar ôl anafiadau i'w ysgwydd.

Wrth sôn am ei yrfa a'r hyn mae wedi ei gyflawni hyd yma, dywedodd wrth Newyddion S4C: "Pan ddaeth fy anaf â'm gyrfa i ben, fe wnes i golli fy nghariad at rygbi, ac am bron i ddegawd, byddwn i'n mynd i gemau Cymru ac yn teimlo'n fwyfwy pell oddi wrth yr hyn oedd yn y gêm. 

"Ac yna, pan ddechreuais hyfforddi fy meibion, roedd boreau Sul yn dod yn fore rygbi unwaith eto."

Dywedodd ei fod yn credu fod Cymru yn "genedl wedi'i hadeiladu ar gymunedau, a boed hynny'n byllau glo, yr holl gapeli neu glybiau'r gweithwyr neu'r clybiau rygbi, dyna yw ein uwch-bŵer."

Yn ddiweddar, mae Richard wedi dechrau podlediad Beyond the Breakdown, sy'n edrych ar deithiau personol rhai o gewri rygbi Cymru, gan ganolbwyntio ar y clybiau lleol a wnaeth eu siapio nhw.

"Dechreuodd fel breuddwyd a ddaeth yn sgil y rhwystredigaeth - er gwaethaf yr holl sgyrsiau am y gêm elît yng Nghymru, nid oedd neb yn ymddangos fel eu bod yn cefnogi dyfodol Cymru na'r sgwrs am ddyfodol Cymru yn y clybiau lleol ac yn y cymunedau sydd, i mi, yn rygbi Cymru."

Gweithio gyda Will Smith 

Image
Richard Parks yn y Pegwn De 2011 (Blog Richard Parks)

Yn 2011 fe wnaeth Richard gwblhau sialens 737 - sef saith copa uchaf y cyfandiroedd a thri phegwn (pegwn y de a'r gogledd, ac Everest), mewn saith mis. 

Y gŵr o Bontypridd oedd y cyntaf erioed i gwblhau'r her mewn blwyddyn galendr - gan osod record byd newydd.

"Mae amser yn wallgof yndyw e? Oedd hwnna 15 mlynedd y nôl nawr, mae'n wyllt pa mor gyflym mae 'di mynd."

Wrth drafod ei brofiad o gwblhau yr her, dywedodd Richard: "Roedd hi'n gyfnod anodd i mi, a chefais bersbectif. Rydyn ni i gyd yn mynd drwy gyfnodau anodd. Dw i'n dal i alaru am golli fy nhad.

"Ond ar yr adeg honno yn fy mywyd, fel dyn ifanc, pan ddywedwyd wrthaf i na allwn i chwarae rygbi bellach, roedd o fel bod rhywun wedi gwthio fi oddi ar ymyl clogwyn."

Roedd gweithio ar y sgiliau newydd yr oedd eu hangen ar gyfer cwblhau'r her eithafol, fel dringo a mynydda, wedi cael effaith gadarnhaol iawn arno, meddai.

"Fe achubodd fy mywyd, a dweud y gwir...ac rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfnod hwnnw a'r prosiect hwnnw, her 737. Wnaeth o ddim dechrau fel ymgais i dorri record y byd, roeddwn i'n hapus i fod yn gwneud rhywbeth cadarnhaol."

'Pole to Pole'

Yn ddiweddar, cafodd Richard y cyfle i dywys yr actor byd enwog, Will Smith, i begwn y de, fel rhan o'r gyfres Disney, Pole to Pole.

"Dwi'n dal i binsio fy hun," meddai.

"Roedd cael y cyfle i weithio ochr yn ochr â Will - ma' hyd yn oed galw e'n Will yn wallgof!"

Image
Pole to Pole, Will Smith a Richard Parks ar dop copa llawn eira

Wrth gwrdd â'r Americanwr yn Antartica, fe wnaeth y ddau "glicio'n syth", meddai Richard. "Fe daflodd ei hun yn llawn iddo."

Mae'r rhaglen yn ddarn o waith y mae Richard yn "falch iawn" ohono, meddai.

"Os ydym am ysgogi newid ystyrlon mewn pobl, mae'n rhaid i ni helpu pobl i greu cysylltiad â'r lleoedd hyn.  

"Er mor ddifyr ac uchelgeisiol oedd y gyfres, mewn gwirionedd, mae'n gorff o waith dwi'n falch iawn ohono, sy'n helpu pobl i weld y blaned trwy lens wahanol."

Wrth adlewyrchu ar ei brofiadau a'r hyn sydd i ddod yn y dyfodol, ychwanegodd Richard: 'I gael y cyfle i daflu goleuni ar straeon a lleisiau anhysbys, mae'n fraint go iawn - ac rwy'n teimlo cyfrifoldeb i wneud hynny."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.