Bron i 1,000 o farwolaethau wedi arosiadau hir mewn adrannau achosion brys

Ysbyty

Roedd bron i 1,000 o farwolaethau’n gysylltiedig ag arosiadau hir mewn adrannau brys yng Nghymru yn 2025, yn ôl adroddiad newydd.

Mae'r adroddiad gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn dweud eu bod yn amcangyfrif bod 965 o farwolaethau yng Nghymru'r llynedd yn gysylltiedig ag arosiadau o 12 awr neu fwy mewn adrannau brys cyn cael gwely ysbyty.

Mae hynny'n gyfystyr ag 18 o bobl yn marw bob wythnos oherwydd arosiadau hir mewn adranau brys.

Mae'r coleg yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag arosiadau hir mewn adrannau brys i sero erbyn diwedd y degawd.

Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan Lywodraeth Cymru.

'Trasiedi'

Dywedodd Dr Rob Perry, Is-lywydd y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys dros Gymru bod unrhyw farwolaeth y gellid ei hosgoi yn "drasiedi".

"Mae fy nghalon gydag anwyliaid unrhyw berson a fu farw yn dilyn arosiadau hir mewn adrannau brys," meddai mewn datganiad.

"Efallai mai’r rhain oedd ein cleifion mwyaf agored i niwed – y rhai a oedd yn cael eu hystyried yn ddigon sâl neu wedi’u hanafu i fod angen eu derbyn [i'r ysbyty]. Dylen nhw fod yn derbyn y gofal gorau yn brydlon.

"Yn hytrach, nhw yw’r rhai sy’n aros hiraf yn aml. Efallai bod mwy na 900 ohonynt wedi talu’r pris eithaf y llynedd am y methiannau yn llif cleifion, a diffyg gwelyau mewn ysbytai."

Mae'n dweud mai'r ffordd orau o leihau amseroedd aros yn yr achos hwn ydy drwy ryddhau gwelyau mewn ysbytai.

"Fel y mae ein hadroddiad heddiw yn ei ddangos, mae hwn yn fater o fywyd a marwolaeth."

Argymhellion

Mae'r Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod:

- Nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig ag arosiadau hir mewn adrannau brys yn cael ei leihau i sero erbyn diwedd y degawd

- Gofal coridor yn cael ei ddileu, trwy sicrhau nad oes unrhyw gleifion mewn adrannau brys yn cael gofal mewn ardaloedd sydd heb eu dynodi ar gyfer triniaeth 

- Atebolrwydd dros ddod â gorlenwi i ben ar draws system gofal iechyd Cymru a bod arweinwyr gwleidyddol ac arweinwyr y GIG yn cyfrannu at hyn

- Nad oes unrhyw bolisïau newydd y GIG yn cynyddu'r pwysau ar ofal brys heb welliannau ymlaen llaw i lif ysbytai

- Dull system gyfan yn cael ei fabwysiadu i fynd i'r afael â phroblemau ym mherfformiad y GIG

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.