Cymeradwyo deddfwriaeth i roi cyfle i bob plentyn allu siarad Cymraeg yn hyderus
Cymeradwyo deddfwriaeth i roi cyfle i bob plentyn allu siarad Cymraeg yn hyderus
Mae'r Senedd wedi cymeradwyo deddfwriaeth i "roi cyfle i bob plentyn ar hyd a lled Cymru allu siarad Cymraeg yn hyderus, be bynnag fo'u cefndir neu iaith yr ysgol y maent yn astudio ynddi."
Y cam olaf cyn troi'r bil yn gyfraith fydd Cydsyniad Brenhinol.
Bwriad Bil y Gymraeg ac Addysg, a gafodd ei phasio gan y Senedd brynhawn Mawrth, yw cau'r bwlch yng ngallu disgyblion o wahanol ysgolion i siarad Cymraeg.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, nod y Bil yw symud tuag at darged 2050 o filiwn o siaradwyr drwy "gryfhau rôl y Gymraeg mewn addysg, gyda'r amcan cyffredinol o sicrhau bod holl ddisgyblion ysgolion yng Nghymru yn defnyddio'r Gymraeg yn annibynnol pan fyddant yn gadael yr ysgol."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros y Gymraeg, Mark Drakeford: "Mae'r Gymraeg yn perthyn inni i gyd. Mae'r Bil hwn yn rhoi cyfle gwell i blant a phobl ifanc ddod yn siaradwyr Cymraeg, gan ddod â ni'n agosach at ein nod o weld miliwn o siaradwyr yng Nghymru.
"Fel Senedd, rydyn ni wedi creu Bil pwysig, pellgyrhaeddol a fydd yn galluogi pob plentyn i ddod yn siaradwr Cymraeg hyderus. Dw i'n edrych ymlaen at gydweithio ymhellach wrth inni weithredu'r Bil."
Mae'r ddeddfwriaeth yn nodi tri chategori iaith ar gyfer ysgolion, a lefel ofynnol o addysg Gymraeg i'w darparu gan ysgolion ym mhob categori.
Bydd hefyd yn sicrhau bod camau yn cael eu cymryd i ddarparu addysg drochi ddwys yn y Gymraeg ledled Cymru, gan helpu dysgwyr o bob oed i ddatblygu eu sgiliau.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Lynne Neagle: "Mae ein dull trochi hwyr yn y Gymraeg yn unigryw.
"Mae'r Bil hwn yn adeiladu ar y gwaith ardderchog sydd eisoes yn digwydd ledled Cymru, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael dysgu'r Gymraeg, ei defnyddio ac elwa ohoni."
Ychwanegodd y llywodraeth eu bod y cefnogi ysgolion i wireddu'r uchelgais hon drwy barhau â chynlluniau grant i gynyddu nifer yr athrawon a'r cynorthwywyr sy'n siarad Cymraeg, a chynnig gwersi Cymraeg am ddim i holl staff ysgolion.