Newyddion S4C

Swyddi gwasanaeth sifil yn dod i Gaerdydd

Swyddi Llywodraeth DU

Fe fydd rhai o swyddi gwasanaeth sifil Llywodraeth y DU yn cael eu symud i Gaerdydd dan gynlluniau newydd i adleoli swyddi o Lundain a thorri ar gostau.

Yn ôl cynlluniau sydd wedi eu datgelu ddydd Mercher, fe fydd y Llywodraeth yn torri 12,000 o swyddi gweision sifil yn Llundain a’u symud i sawl “campws” ar draws y wlad.

Byddant yn cael eu symud i wyth lleoliad gwahanol yn Lloegr, tri yn yr Alban ac un lleoliad yr un yng Nghymru a Gogledd Iwerddon.

Dyw hi ddim yn glir eto sawl swydd fydd yn cael eu symud i'r gwahanol ganolfannau.

Mae disgwyl i adrannau unigol Llywodraeth y DU gyflwyno eu cynlluniau ar gyfer adleoli staff erbyn 11 Mehefin, fel rhan o adolygiad gwariant.

Dywedodd Pat McFadden AS, Canghellor Dugiaeth Lancaster, y byddai’r newid yn “symud mwy o benderfyniadau allan o Whitehall a’u symud i gymunedau ar draws y DU.”

Fe fydd swyddi yn cael eu symud i ddau brif “gampws” – un ym Manceinion sydd yn arbenigo mewn arloesedd digidol, a'r llall yn Aberdeen, fydd yn hwb swyddi egni.

Fe fydd swyddi newydd hefyd yn cael eu creu yng Nghaerdydd, Birmingham, Leeds, Glasgow, Darlington, Newcastle a Tyneside, Sheffield, Bryste, Caeredin, Belfast a Chaerefrog.

Fe fydd 11 o adeiladau swyddfeydd y Llywodraeth yn cau yn Llundain o achos hyn. Mae Llywodraeth y DU  yn rhagweld y bydd yn arbed £94 miliwn y flwyddyn erbyn 2032.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.