Newyddion S4C

Cadeirlan Bangor: Adroddiadau am 'ddigwyddiadau difrifol' i'r Comisiwn Elusennau

Newyddion S4C
Cadeirlan Bangor / Andrew John

Yn dilyn cyhoeddi crynodebau o adroddiadau beirniadol am Gadeirlan Bangor, gall Newyddion S4C ddatgelu bod chwe 'datganiad digwyddiad difrifol' wedi eu gwneud i'r Comisiwn Elusennau ynghylch yr Eglwys Gadeiriol.

Roedd pedwar o'r datganiadau yn ymwneud â diogelu, gyda'r ddau arall ynghylch materion ariannol. 

Adroddiad i'r Comisiwn Elusennau yw datganiad digwyddiad difrifol sydd yn amlinellu digwyddiad sydd wedi achosi neu sydd yn peryglu gwneud niwed neu golled i elusen. 

Mae'n ddyletswydd cyfreithiol ar bob elusen gofrestredig i adrodd pryderon o'r fath.

Cafodd cyfanswm o chwe datganiad digwyddiad difrifol eu gwneud i'r Comisiwn Elusennau am yr Eglwys Gadeiriol ers mis Mawrth y llynedd.

Mae tri ohonynt wedi eu cau gan y Comisiwn Elusennau, ac mae dau yn dal dan ymchwiliad.

Daethpwyd i'r penderfyniad i wneud y datganiad diweddaraf ddydd Llun.

'Newid parhaol'

Mewn datganiad, diolchodd Archesgob Cymru ac Esgob Bangor, y Parchedicaf Andrew John, i Gabidwl y Gadeirlan am "gymryd y camau angenrheidiol i ddod â newid parhaol."

Mae Newyddion S4C yn deall hefyd i aelodau cymuned y Gadeirlan wneud cwyn i'r Comisiwn Elusennau ym mis Hydref y llynedd, gan restru dwsinau o bryderon am y Gadeirlan a'r Esgobaeth. 

Ymatebodd y Comisiwn Elusennau gan ddweud y bydden nhw'n argymell gwelliannau i'r elusennau perthnasol.

Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddwyd crynodebau dau adroddiad ar wefan yr Eglwys yng Nghymru oedd yn amlinellu cwynion am "ddiwylliant lle roedd cymylu ffiniau rhwyiol", alcohol yn cael ei yfed i ormodedd a rheolau ariannol yn wan.

'Trwsio ac adeiladu'

Ymddiheurodd y Parchedicaf Andrew John ddydd Gwener diwethaf i "unrhyw aelodau o gymuned y Gadeirlan sydd wedi cael eu brifo neu sy'n teimlo fy mod wedi eu gadael i lawr."

Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi ffurfio grŵp gweithredu fydd yn gweithredu argymhellion yr adroddiadau a bwrdd goruchwylio fydd yn cynnig sgriwtini ar y gwath hwnnw.

Ddydd Mawrth, cyhoeddwyd cylch gorchwyl y grŵp gweithredu a'r bwrdd goruchwylio ar wefan yr Eglwys.

Mewn datganiad wedi cyhoeddi crynodebau'r adroddiadau, dywedodd y Parchedicaf Andrew John: "Byddwn yn ymrwymo i'r gwaith o drwsio, ailadeiladu ymddiriedaeth a chreu diwylliant iachach gyda'n gilydd".

Chwythwyr chwiban

Wedi i Newyddion S4C ddweud wrth yr Eglwys yng Nghymru eu bod yn deall i'r Comisiwn Elusennau ymchwilio i faterion cysylltiedig â'r Gadeirlan yn dilyn cwyn gan chwythwyr chwiban, datgelwyd y gyfres o ddatganiadau digwyddiad difrifol.

Ar wahân i'r datganiadau rheiny, fe wnaeth chwythwyr chwiban gysylltu â'r Comisiwn Elusennau yn hwyr y llynedd, gan amlinellu dwsinau o gwynion am reolaeth a rheolaeth ariannol y Gadeirlan.

Ymysg y cwynion roedd pryderon am symiau mawr o arian yr Esgobaeth yn cael eu gwario ar faterion y Gadeirlan, gyda'r cwynwyr yn  dweud bod hynny yn amhriodol gan bod y ddau sefydliad yn elusennau ar wahân.

Image
Cadeirlan Bangor

Cafwyd cwynion hefyd am ordeinio offeiriad yn erbyn argymhelliad y panel dirnadaeth (sydd yn argymell a ddylai unigolion ddod yn offeiriaid ai peidio) a ddaeth wedyn yn swyddog yn y Gadeirlan.

Dywedodd ffynonellau o fewn y Gadeirlan eu bod yn credu i Archesgob Cymru gymeradwyo ordeinio a dyrchafu'r unigolyn, a'u bod yn gofidio i hynny ddigwydd yn erbyn dymuniad y pwyllgor ac i'w ddyrchafiad ddigwydd yn gynt na'r arfer.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gadeirlan i'r unigolyn gwblhau eu cyfnod curadol ac mai argymhellion yn unig a wneir gan y pwyllgor. Dywedon nhw bod hawl gan Esgob i wneud penderfyniad gwahanol, fel ag a wnaed yn yr achos hwn.

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â’r cyn-swyddog, sydd bellach wedi gadael y Gadeirlan a’r offeiriadaeth. Doedd e ddim am siarad ar gofnod.

Gwario dros £400,000 ar gelfi

Roedd honiadau hefyd bod dros £418,000 wedi ei wario ar gelfi newydd i’r Gadeirlan, wedi ei ariannu yn rhannol  gan  yr Esgobaeth, ac i “tua £20,000” gael ei wario ar dair taith dramor: dwy i Rufain ac un i Ddulyn. Er mai staff y Gadeirlan oedd yn rhan o’r teithiau  gan fwyaf, mae honiadau i’r Esgobaeth ysgwyddo'r gost.

Fe glywodd Newyddion S4C fod “yr ail ymweliad â  Rhufain yn benodol, yn nodweddiadol foethus. Roedd yn cynnwys aros dros-nos mewn gwesty Radisson ym  maes awyr Manceinion cyn  hediad cynnar yn y bore, yna gwestai pedair seren yn Rhufain, ciniawau a thacsis drwy gydol y daith. 

"Wnaeth y rhan fwyaf o’r rhai aeth ar yr ail a’r trydydd trip ddim cyfrannu at y gost.”

'Dim ymgynghori digonol'

Mae  llefarydd ar ran Cadeirlan Bangor wedi cydnabod nad oedd ‘na ymgynghoriad na gwybodaeth ddigonol am y gwariant ar gelfi.

O ran y teithiau tramor, fe ddywedodd y llefarydd bod yr arian wedi dod o gronfa’r Esgobaeth yn hytrach na’r Gadeirlan, a bod y Deon a’r Cabidwl wedi cytuno i ad-dalu’r hyn a wariwyd gan yr Esgobaeth, lle dylen nhw fod wedi ysgwyddo’r gost. 

Yn ogystal, maen nhw wedi comisiynu cyngor gan yr Eglwys yng Nghymru yn ganolog i’w helpu nhw i gywiro rhai problemau gyda chadw cofnodion ariannol.

Wedi i Newyddion S4C gysylltu â’r Eglwys yng Nghymru ddydd Mawrth yn gofyn a oedd y Comisiwn Elusennau wedi awgrymu gwelliannau i elusennau sy’ ynghlwm â’r Gadeirlan, daeth cadarnhad fod Cabidwl y Gadeirlan wedi cwrdd ddydd Llun, i drafod telerau ar gyfer y grŵp gweithredu a’r bwrdd goruchwylio, gafodd eu creu wedi i grynodebau’r ddau adroddiad gael eu cyhoeddi.

Dywedodd llefarydd ar ran Cadeirlan Bangor: "Mewn cyfarfod ddydd Llun, trafododd Cabidwl yr Eglwys Gadeiriol weithdrefnau a’r broses o gadw cofnodion ariannol. 

"O ganlyniad i'r drafodaeth hon, penderfynodd y dylid anfon Adroddiad Digwyddiad Difrifol at y Comisiwn Elusennau. Mae hyn yn dilyn pum Datganiad Digwyddiad Difrifol yn ymwneud â'r Gadeirlan anfonwyd at y Comisiwn Elusennau yn 2024.

"Mae Cabidwl yr Eglwys Gadeiriol yn cymryd eu cyfrifoldebau am lywodraethu da o ddifrif iawn ac wedi penderfynu, o ystyried gwybodaeth sydd wedi dod i'w sylw, y dylid anfon Adroddiad Digwyddiad Difrifol at y Comisiwn Elusennau.

"Er na allwn ddarparu sylwebaeth barhaus ar yr achos unigol, byddwn yn gweithio gyda'r Comisiwn Elusennau i sicrhau bod y mater yn cael ei ddatrys cyn gynted â phosibl a bod unrhyw welliannau sydd angen eu gwneud yn ein gweithdrefnau yn cael eu rhoi ar waith heb oedi."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.