Dim bwriad gan Eluned Morgan i ddefnyddio 'iaith ranedig' wrth drafod mewnfudo
Mae Prif Weinidog Cymru Eluned Morgan wedi dweud na fydd hi'n defnyddio "iaith ranedig" wrth gael ei holi a oedd hi'n cefnogi sylwadau Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer ar fewnfudo.
Gofynnwyd i Eluned Morgan sawl gwaith yn y Senedd a oedd hi'n cefnogi'r ffaith fod Syr Keir Starmer yn dweud fod y DU mewn perygl o ddod yn “ynys o ddieithriaid” pe na bai mewnfudo’n cael ei leihau.
Wrth siarad yn ystod sesiwn gwestiynau'r Prif Weinidog, fe wnaeth hi wrthod dweud a oedd hi'n cefnogi'r sylwadau, gan ddweud fod Cymru yn "genedl groesawgar".
Mae Syr Keir Starmer wedi wynebu beirniadaeth gan rai o aelodau meinciau cefn Llafur.
Fe wnaeth Arweinydd Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth rybuddio y gallai "gwyriad arall i'r dde gan Lafur gael goblygiadau difrifol" yn benodol i'r sector gofal yng Nghymru, a oedd yn dibynnu ar fewnfudo.
"Mae arweinydd ei phlaid, y Prif Weinidog, eisiau tanseilio hynny am resymau gwleidyddol, gan hyd yn oed fabwysiadu iaith ranedig.
"Dwi'n gofyn iddi ymbellhau ei hun o'r fath yma o iaith."
'Cyfraniad helaeth'
Ymatebodd Eluned Morgan gan ddweud nad yw hi yn mynd i ddefnyddio "iaith ranedig pan mae'n dod i fewnfudo - nid dyma'r gwerthoedd sydd gennym ni yma yn Llafur Cymru," meddai.
"Rydym ni wedi ein hymrwymo i sicrhau ein bod ni'n gwneud ein gorau i ddarparu gwasanaeth gofal yng Nghymru.
"Byddai hynny yn anoddach heb allu cyflogi pobl o dramor."
Fe wnaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig Darren Millar ofyn i'r Prif Weinidog sawl tro a oedd hi'n cytuno fod mewnfudo yn "rhy uchel".
Ymatebodd Eluned Morgan: "Mae Cymru yn genedl groesawgar, dwi'n meddwl ein bod ni'n falch iawn o fod yn gysylltiedig â'r gwerthoedd positif y gall mewnfudo gyfrannu at ein cymunedau a'n cymdeithasau a'r cyfraniad helaeth y mae'n ei wneud i'n gwasanaethau cyhoeddus."