Newyddion S4C

'Cae gorau yn y league’: Eisteddle newydd er cof am Josh Roberts

'Cae gorau yn y league’: Eisteddle newydd er cof am Josh Roberts

Fe fyddai dyn ifanc a gafodd ei ladd mewn damwain car wedi bod “wrth ei fodd” fod eisteddle newydd wedi ei godi er cof amdano.

Fe fuodd Josh Lloyd Roberts farw mewn gwrthdrawiad ger Caernarfon yn 2023, yn 19 oed.

Yn ôl ei fam, Melanie Tookey, mae’r eisteddle newydd ar gyfer Clwb Pêl-droed Bontnewydd yn “fwy na bench”.

Cafodd yr eisteddle ei godi fel rhan o gyfres S4C Prosiect Pum Mil, gyda chwaer Josh, Abi, yn gwneud y cais i'r rhaglen.

Roedd Josh wrth ei fodd gyda phêl droed ac yn chwarae i’r tîm.

“Nesh i grio pan nath hi ddeud bod hi di neud o, a mwy pan ddaru hi ffonio fi i ddeud bo chi di cytuno,” meddai Melanie. 

Image
Llun o Josh Roberts

Eisiau diolch i bobl leol am y gefnogaeth maen nhw wedi derbyn fel teulu oedd Abi.

“Dwi isio rhoi nôl i’r gymuned am bod nhw 'di neud cyn gymaint i ni dros yr amser yma a do'n i ddim yn gwybod sut arall i neud o rili, heblaw rhoi rwbath mawr felna yn ôl iddyn nhw,” meddai Abi.

Dyma oedd un o’r heriau mwyaf i’r gyfres ymgymryd â hi gan mai £5,000 yw’r gyllideb bob tro.

Mae gan y clwb ryw 150 o aelodau a saith o dimau o’r plant ieuengaf i’r tîm cyntaf.

Hen lochesi fysiau oedd yn cael eu defnyddio gan gefnogwyr y tîm yn flaenorol, ac roedd y clwb yn awyddus i gael rhywbeth gwell yn eu lle.

Roedd peidio cael eisteddle hefyd yn rhwystro Bontnewydd rhag medru cael dyrchafiad, yn ôl y cadeirydd, Chris Garlick.

“Heb y stand fedrwn ni ddim symud ymlaen. Mae rhaid i ni gael hundred seater stand i fynd i fyny tiers, i symud o’r league, promotion.”

Image
Yr Eisteddle newydd yng Nglwb Pêl Droed Bontnewydd
Cafodd cân ei chyfansoddi gan un o arwyr Josh Roberts, Elidyr Glyn, ar gyfer y clwb pêl droed 

Mae’r prosiect hefyd wedi bod yn bwysig i Bontnewydd am fod nifer o’r chwaraewyr yn ffrindiau gyda Josh. 

“Odd o’n grêt o foi. One of the best. Wir yr. Football oedd ei betha fo, gwatshiad neu chwara, dim ots pa run,” meddai Matthew Jones, capten y clwb. 

Yn ogystal ag adeiladu eisteddle, mae’r cytiau wrth ochr y cae wedi eu gwella a chegin wedi ei gosod yn y cwt panad. 

Hefyd mae murlun wedi ei greu gyda lluniau gan blant yr ysgol gynradd leol. 

Yn yr ystafell newid erbyn hyn mae congl arbennig i gofio am Josh. 

“Ma hwnna yn rili nice touch," meddai'r is-gapten, Luke Phillips.

"Trwy tymor dwytha odd genna ni lun bach tu ôl y drws a nathan ni iwshio hwnna fatha motivation. A nathan ni guro’r league heb golli. 

"Ag oddan ni i gyd yn teimlo cyn mynd allan bod ysbryd Josh efo ni. Ma hwnna wan di neud o even yn gwell byth. Ma hwnna yn ffantastic.” 

Roedd Josh yn hoffi cerddoriaeth ac mae chant hefyd wedi ei chyfansoddi gan Elidyr Glyn, gydag aelodau o’r clwb yn recordio’r gân gyda’r canwr. 

Cafodd llawer o’r deunyddiau neu’r gwaith eu rhoi am ddim gan fusnesau ac unigolion yn y gymuned. Fe wnaeth llu o wirfoddolwyr hefyd fwrw ati gyda’r gwaith. 

Yn ôl Abi, mae o wedi dod a “hapusrwydd mewn amser mor hyll.”

Mae ffrindiau ac aelodau pêl droed y clwb yn dweud rŵan mai nhw sydd gyda’r “cae gorau yn y league”.

Mae modd gwylio'r rhaglen ar S4C, S4C Clic a BBCiPlayer nos Sul Mai 18

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.