Sir Gâr: Dyn o Langadog wedi ei gyhuddo o ddwyn dros 70 o ddefaid
Mae dyn 40 oed o Sir Gâr wedi cael ei gyhuddo o ddwyn dros 70 o ddefaid yn ne Ceredigion.
Cafodd Hywel Williams o Langadog ei arestio ar 25 Mawrth eleni wedi honiadau bod rhwng 70 a 75 o ddefaid wedi eu dwyn o ardal Rhydlewis ger Llandysul.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod Mr Williams bellach wedi cael ei gyhuddo o ddwyn da byw.
Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Aberystwyth ar 28 Mai.
Dywedodd y Rhingyll Paul Roberts o Uned Troseddau Cefn Gwlad Heddlu Dyfed-Powys bod y llu wedi ymrwymo i ddiogelu cymunedau ffermio.
"Mae arestio a chyhuddo Hywel Williams yn brawf i'n cymunedau ffermio y bydd pob honiad o ddwyn da byw yn cael ei ymchwilio'n llawn.
"Mae'r prosesau cyfreithiol bellach wedi dechrau ac mae'n bwysig osgoi sylwadau pellach tra bod y broses honno yn cael ei chynnal."