Newyddion S4C

Tir 'maint 130 o gaeau pêl-droed' wedi ei ddinistrio mewn tanau gwair

Tanau gwyllt yng Nghoedwig Tywi. (Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru)
Tanau gwyllt yng Nghoedwig Tywi. (Llun: Cyfoeth Naturiol Cymru)

Mae tir maint 130 o gaeau pêl-droed sydd dan reolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi ei ddinistrio mewn tanau gwair diweddar.

O fynyddoedd y Berwyn a Choedwig Beddgelert yn y gogledd i Goedwig Tywi a mynydd Dinas Baglan yn y de, mae llawer o dir wedi cael ei losgi'n ulw meddai CNC.

Yn ôl CNC mae criwiau'r gwasanaethau tân wedi brwydro 1,400 o danau gwyllt yng Nghymru eleni;n barod.

Mae dros 90 hectar o dir CNC wedi cael ei ddinistrio yn ogystal â channoedd o fetrau o ffensio.

Mae coed, planhigion a bywyd gwyllt yn cael eu gadael yn ddiymadferth wrth i danau gwyllt llosgi'r tir, meddai CNC.

Hefyd, mae tanau gwyllt yn effeithio ar ansawdd dŵr wrth i'r lludw a'r priddoedd olchi i afonydd, llynnoedd a chronfeydd dŵr.

Mae CNC yn rhybuddio y gallai colli'r ecosystemau werthfawr yma "darfu ar gydbwysedd bregus natur, gan arwain at erydiad pridd a dinistrio cynefinoedd a gadael craith ar ein tirwedd."

'Pawb yn gwneud eu rhan'

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn galw ar bawb i "wneud eu rhan" er mwyn ceisio atal tanau gwyllt a sicrhau bod cefn gwlad yn ddiogel i bawb.

Mae'r rhan fwyaf o danau gwyllt yng Nghymru yn cael eu cynnau'n fwriadol ac yn cael eu categoreiddio fel llosgi bwriadol, meddai CNC.

Mae rhai o ganlyniad i ddefnyddio barbeciws yn amhriodol. Ychydig iawn sy'n cael eu hachosi gan ddamweiniau neu achosion naturiol meddai'r corff.

Er mwyn ceisio sicrhau nad yw tanau yn lledaenu i achosi dinistr difrifol, mae CNC yn galw ar bobl i wneud y canlynol:

  • Os gwelwch chi fwg neu dân yng nghefn gwlad, ffoniwch 999 ar unwaith a gofynnwch am y gwasanaeth tân.
  • Os oes tân gwyllt wrch eich hymyl, ffoniwch 999, caewch eich ffenestri, bydd y Gwasanaeth Tân yn gofyn i chi adael eich tŷ os oes perygl.
  • Os ydych chi'n amau unrhyw un sy'n cynnau tân yn fwriadol, rhowch wybod drwy gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555 111 neu'r Heddlu ar 101.
  • Peidiwch â chynnau tanau, taflu sigaréts na photeli gwydr yng nghefn gwlad, yn enwedig yn ystod tywydd sych.
  • Cynnau barbeciws lle mae arwyddion yn dweud y gallwch chi yn unig. Parchwch arwyddion lleol a rhybuddion tân - ac os ydych chi'n byw ger ardaloedd sy'n dueddol o weld pobl yn cynnau tanau, dysgwch am y canllawiau sydd ar gael ar atal tanau gwyllt.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.