Y chwilio'n parhau am fachgen 'bregus' aeth ar goll yn Llandudno
Mae'r chwilio yn parhau am fachgen 'bregus' 16 oed aeth ar goll yn Llandudno yn Sir Conwy.
Fe aeth Athrun, sy'n dod o Sir Gaerloyw, ar goll dros y penwythnos tra'r oedd ar ei wyliau yn y dref.
Mewn datganiad, dywedodd Heddlu'r Gogledd fod ymdrechion yn parhau ddydd Mawrth.
Ychwanegodd y llu fod disgwyl i dimau chwilio tanddwr a gwylwyr y glannau barhau â'u hymdrechion o 10:30 y bore.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod gan Athrun wallt byr tywyll a'i fod tua chwe throedfedd o daldra.
Ers prynhawn dydd Sadwrn, mae'r heddlu a gwylwyr y glannau wedi bod yn chwilio amdano "ar y tir, y dŵr ac o'r awyr".
Mae tîm chwilio tanddwr arbenigol bellach yn chwilio amdano yn y môr.