Newyddion S4C

Hacwyr wedi cymryd manylion cwsmeriaid Marks & Spencer

Arwydd M&S

Mae Marks & Spencer wedi datgelu bod manylion personol cwsmeriaid wedi cael eu cymryd gan hacwyr.

Daw hyn ar ôl i'r cwmni ddioddef ymosodiad seiber. 

Yn ôl y prif weithredwr Stuart Machin fe gafodd yr hacwyr afael yn y data o achos "natur soffistigedig y digwyddiad".

Fe wnaeth o bwysleisio nad ydyn nhw wedi medru cael mynediad at fanylion taliadau, manylion cardiau talu na chyfrinair pobl.

Mae'r prif weithredwr wedi ysgrifennu at gwsmeriaid i adael iddyn nhw wybod ond does dim angen iddyn nhw "gymryd unrhyw gamau gweithredu".

Dyw Marks & Spencer ddim wedi datgelu'r nifer o unigolion sydd wedi eu heffeithio.

Mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Mr Machin nad oes "unrhyw dystiolaeth" bod eu gwybodaeth bersonol wedi eu rhannu. 

"Er mwyn rhoi tawelwch meddwl ychwanegol i'n cwsmeriaid fe fyddan nhw yn cael eu hannog i ail-osod eu cyfrinair y tro nesaf y byddan nhw yn mewngofnodi i'w cyfrif M&S ac rydyn ni wedi rhannu gwybodaeth am sut i gadw yn saff ar-lein," meddai.

Dyw'r cwmni ddim wedi bod yn gallu cymryd unrhyw archebion trwy eu gwefan neu ap ers 25 Ebrill. 

Mae'r digwyddiad wedi achosi problemau gan gynnwys trafferthion taliadau digyswllt, archebion clicio a chasglu ac yr hyn sydd ar gael yn y siopau. 

Yn ôl rhai adroddiadau grŵp o hacwyr sydd yn gweithredu o dan yr enw Scattered Spiders sydd yn gyfrifol. 

Llun: PA

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.