Argymell adeiladu ysgol arbennig newydd gyda mwy o leoedd yn Llanelli
Bydd dau opsiwn ar gyfer ysgol arbennig newydd yn Llanelli yn cael eu hargymell i gabinet Cyngor Sir Gâr, yn ôl aelod cabinet y sir dros addysg.
Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies y byddai'r opsiwn cyntaf yn ysgol ar gyfer 150 o ddisgyblion, gyda'r ail ar gyfer 250 o ddisgyblion.
Byddai'r ddau opsiwn yn golygu y byddai adeilad newydd Ysgol Heol Goffa yn fwy na'r cynllun gwreiddiol ar gyfer 120 o ddisgyblion.
Mae Ysgol Heol Goffa yn darparu addysg ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY).
Mae lle i 75 o ddisgyblion yn yr ysgol yn Llanelli, ond mae dros 120 yno ar hyn o bryd.
Cafodd adolygiad annibynnol o'r ddarpariaeth addysgol arbennig yn y dref ei gyhoeddi fis Chwefror.
Fe wnaeth yr adolygiad bwysleisio'r angen i ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer cyflyrau'r sbectrwm awtistig (CSA) a chynnig chwe opsiwn ar gyfer dyfodol yr ysgol.
Yn dilyn cyfnod o ymgynghori mae'r cyngor bellach wedi penderfynu argymell dau opsiwn.
Yn ôl y Cynghorydd Davies, byddai'r opsiwn cyntaf yn golygu adeiladu ysgol newydd ar gyfer 150 o ddisgyblion ag ADY ar un safle.
Dywedodd y byddai'n cynnwys canolfannau arbenigol cynradd ac uwchradd ar gyfer 115 o ddisgyblion â CSA.
Byddai'r ail opsiwn i adeiladu ysgol newydd ar gyfer 250 o ddisgyblion ag ADY hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer disgyblion gyda CSA meddai.
'Penderfynol'
Dywedodd y Cynghorydd Davies ei fod yn "benderfynol o sicrhau'r ddarpariaeth orau" ar gyfer disgyblion ag ADY.
"Er gwaethaf pwysau ariannol enfawr, rydym yn benderfynol o sicrhau'r ddarpariaeth orau ar gyfer disgyblion ADY yn ardal Llanelli," meddai.
"Rwy'n gofyn am gostau mwy pendant ac, fel bob amser, byddwn yn ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i sicrhau cyllid ar gyfer y cynllun."
Ychwanegodd y Cynghorydd Davies ei fod wedi bwriadu gwneud ei argymhelliad i'r Cabinet ym mis Mai.
Ond mae'r broses wedi'i gohirio oherwydd cyfraith etholiadol, gan fod isetholiad cyngor sir yn ward Lliedi ar 29 Mai.
Yn ystod cyfnod cyn etholiad, nid yw cynghorau yn cael gwneud penderfyniadau a allai gael effaith ar yr ymgyrch etholiadol.