Newyddion S4C

Arestio dyn yn dilyn tanau mewn dau dŷ sy'n gysylltiedig â Syr Keir Starmer

Cordon heddlu

Mae dyn 21 oed wedi’i arestio ar amheuaeth o gynnau tân yn fwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywyd ar ôl i ddau dŷ sy’n gysylltiedig â’r Prif Weinidog Syr Keir Starmer gael eu difrodi.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i danau wrth fynedfa dau gartref yng ngogledd Llundain o fewn 24 awr i'w gilydd. 

Dywedodd Heddlu Llundain eu bod yn ymchwilio i weld a oedd cysylltiad rhwng y tanau a bod heddlu gwrthderfysgaeth yn rhan o'r ymchwiliad.

Mae Scotland Yard hefyd yn ymchwilio i dân mewn cerbyd fel rhan o’r ymchwiliad.

Ddydd Llun, roedd cordon heddlu a swyddogion, yn ogystal ag ymchwilwyr o Frigâd Dân Llundain, i'w gweld y tu allan i dŷ yn Kentish Town, lle roedd y Prif Weinidog yn arfer byw.

Mae Syr Keir yn byw yng nghartref swyddogol y Prif Weinidog yn Downing  Street, ond y gred yw ei fod yn dal yn berchen ar y cartref yn Kentish Town.

Cafodd yr heddlu wybod gan Frigâd Dân Llundain am adroddiadau o dân yn y cyfeiriad am 01.35 fore Llun.

Mae difrod i fynedfa'r cartref ond chafodd neb ei anafu, yn ôl Heddlu'r Met. 

Ychydig cyn 03.00 ddydd Iau, cafodd y gwasanaeth tân eu galw yn dilyn adroddiad bod car ar dân ar yr un stryd.

Roedd dwy injan dân o orsaf dân Kentish Town yn bresennol ac roedd y tân dan reolaeth erbyn 03.30.

Ychydig ar ôl 03.00 ddydd Sul, cafodd Brigâd Dân Llundain ei alw i dân wrth fynedfa tŷ.

Mae'r tŷ yn Islington, a gafodd ei drawsnewid yn fflatiau, hefyd yn gysylltiedig â Syr Keir.

Roedd y tân dan reolaeth erbyn 04.00.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r Met: “Ar y cam cynnar hwn o’r ymchwiliad, mae swyddogion yn gweithio i sefydlu amgylchiadau’r tri thân ac yn cadw meddwl agored a oes unrhyw gysylltiad.”

Ychwanegodd y llu bod ymholiadau’n parhau.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.