Elfennau o feirniadaeth wedi 'brifo' cadeirydd clwb pêl-droed Caerdydd
Elfennau o feirniadaeth wedi 'brifo' cadeirydd clwb pêl-droed Caerdydd
Mae cadeirydd clwb pêl-droed Caerdydd, Mehmet Dalman, wedi dweud mewn cyfweliad prin ei fod yn derbyn rhywfaint o'r feirniadaeth ohono.
Ond mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C mae'n dweud bod ambell elfen yn "rhy bersonol" ac yn ei "frifo".
Roedd y cyfweliad yn un gafodd ei wneud heb i'r camerâu fod yno.
Mae cefnogwyr Caerdydd wedi datgan eu hanfodlonrwydd gyda Dalman a pherchennog y clwb Vincent Tan wedi i'r Adar Gleision ddisgyn i Adran Un am y tro cyntaf ers 22 mlynedd.
Yn ôl rhai dyw'r ddau ddim yn dangos digon o ddiddordeb yn y clwb. Prin iawn yw eu hymweliadau i'r ddinas ar gyfer gemau.
Yn ystod y tymor hefyd mae’r clwb wedi cael tri rheolwr gwahanol ac maen nhw bellach yn edrych am reolwr newydd.
Mae Dalman wedi dweud bod y clwb wedi gwneud "camgymeriadau yn y gorffennol" wrth ddewis rheolwyr a'u bod eisiau gwneud pethau yn wahanol.
Y tro yma mae'r Bwrdd wedi sefydlu is-bwyllgor er mwyn penodi rheolwr newydd.
Bydd yr is-bwyllgor yn cynnwys aelodau o staff pêl-droed y clwb, fel pennaeth academi’r Adar Gleision, Gavin Chesterfield, yn ogystal â chyn prif weithredwr Abertawe, Mark Allen. Byddan nhw hefyd yn defnyddio asiant annibynnol.
Aaron Ramsey sydd wedi cymryd yr awenau fel rheolwr dros dro ers i Omer Riza gael ei ddiswyddo ar 19 Ebrill.
Ond mae Ramsey wedi dweud yn barod nad oes ganddo ddiddordeb mewn bod yn rheolwr parhaol.