Sefydlwyr Aelwyd yr Urdd Treforys yn ennill Tlws John a Ceridwen Hughes
Mae’r Urdd wedi cyhoeddi mai enillwyr Tlws John a Ceridwen Hughes eleni yw David Gwyn a Pamela John o Dreforys.
Mae Tlws John a Ceridwen Hughes, Uwchaled yn gwobrwyo gwirfoddolwyr sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fywyd ieuenctid Cymru.
Mae David Gwyn a Pamela John yn bâr priod sydd wedi "ymroi dros y degawdau i hybu’r Gymraeg a diwylliant Cymreig ymhlith plant a phobl ifanc ardal Treforys" meddai'r Urdd.
Aethant ati i sefydlu Aelwyd yr Urdd Treforys yn Festri Capel y Tabernacl am y tro cyntaf yn yr 1960au cynnar.
Dan arweiniad John a Pamela, bu’r aelwyd yn weithgar wrth gystadlu mewn Eisteddfodau’r Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol yn ogystal â’r Ŵyl Gerdd Dant, ac yn cyflwyno Nosweithiau Llawen ar draws y de.
Cyhoeddodd y gyflwynwraig Heledd Cynwal y newyddion yng Nghapel y Tabernacl ddydd Sul.
Roedd gan Aelwyd yr Urdd Treforys dros 100 o aelodau, ac un o’r rheiny oedd y cerddor, Dewi Pws.
Nododd mewn un cyfweliad ei fod wedi “darganfod ei Gymreictod” yn 15 oed yn yr Aelwyd.
'Antidôt'
Dywedodd y cerddor Geraint Davies a gyfansoddodd ‘Hei Mistar Urdd’, fod Aelwyd Treforys wedi “newid fy mywyd i”.
“David Gwyn a Pam John oedd wrth y llyw bryd hynny, cyn hynny ac am flynydde lawer wedi hynny,” meddai.
Dywedodd eu bod wedi creu “corau, partïon dawnsio gwerin a chriwie Noson Lawen ymhlith y gore yng Nghymru, a hynny o ddeunydd crai digon anystywallt.”
Ychwanegodd fod ei ysgol uwchradd yn “hollol Seisnig” ar y pryd, ond fod yr aelwyd wedi bod yn “antidôt” iddo “- trochfa o Gymreictod bob nos Wener ac ambell Sadwrn.”
“Ffindes i gymar oes yn yr Aelwyd honno, hefyd” meddai, “a rwy’n un o nifer.”
Cyn ymddeol, roedd David yn bennaeth yn Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las a Pamela yn athrawes yno.
'Hoffus a phoblogaidd'
Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr y Celfyddydau, Urdd Gobaith Cymru, eu bod yn ddau “hoffus a phoblogaidd sydd wedi cyfrannu gymaint at Gymreictod ardal yr Eisteddfod eleni.
“Mae angen gwirfoddolwyr ac unigolion fel David a Pamela yn ein hardaloedd, sy’n hapus i roi o’u hamser prin i gefnogi ein hieuenctid.”
“Mae eu cyfraniad yn amhrisiadwy ac rydym ni’n ddiolchgar am eu gwaith diflino dros y degawdau.” meddai.
Bydd David a Pamela yn cael eu hanrhydeddu mewn seremoni ar faes Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025.