Newyddion S4C

Cerbyd yn cludo anifeiliaid ben i waered ar un o brif ffyrdd y gogledd

12/05/2025
Llun: Gareth Wyn Jones
Damwain yr A55

Roedd prif ffordd yr A55 ar gau am nifer o oriau yn Hen Golwyn, Sir Conwy, ddydd Llun wedi i gerbyd a threlar oedd â da byw ynddo droi ben i waered.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw wedi adroddiadau am wrthdrawiad yn ymwneud ag un cerbyd ar y A55 i gyfeiriad y dwyrain am 09:20.

Bu'n rhaid cau'r ffordd wedi'r gwrthdrawiad er mwyn i'r cerbyd a'r trelar gael eu symud oddi yno.

Roedd tagfeydd ar hyd yr A55 i'r dwyrain ger Hen Golwyn wedi'r gwrthdrawiad.

Mewn datganiad bnawn Llun, dywedodd yr heddlu: "Am 09:21 o'r gloch y bore yma cawsom wybod am wrthdrawiad traffig un cerbyd ar ffordd ddwyreiniol yr A55 yn Hen Golwyn.

"Roedd y gwrthdrawiad yn ymwneud â Toyota Hilux yn tynnu trelar gwartheg, y ddau wedi troi drosodd yn y ffordd gan rwystro'r ddwy lôn.

"Diolch byth, mân anafiadau a gafodd gyrrwr yr Hilux, ac y tu mewn i'r trelar roedd dau darw ac un heffer."

Ychwanegodd yr heddlu fod yr anifieiliaid yn fyw ac yn iach yn dilyn y digwyddiad.

"Hoffem ddiolch i’r gymuned ffermio leol a ddaeth ynghyd i'r lleoliad, er mwyn cynorthwyo i reoli’r gwartheg yn ddiogel a’u trosglwyddo i drelar arall, a hebddynt byddai’r lôn wedi bod ar gau am lawer hirach."

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.