Newyddion S4C

Clown y teulu? Ymchwil yn awgrymu nad ydi pobl yn etifeddu hiwmor

Dr Gil Greengross o Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth

Mae ymchwil newydd gan wyddonwyr o Gymru wedi awgrymu nad ydi pobl yn etifeddu'r gallu i ddweud jôc ddoniol.

Fel rhan o'r astudiaeth gyntaf i edrych ar ddylanwad genynnau a'r amgylchedd ar sgiliau doniolwch, fe wnaeth gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth ofyn i dros fil o efeilliaid i raddio eu hiwmor eu hunain a chreu capsiynau doniol ar gyfer cartwnau. 

Yn ôl yr ymchwil roedd y sgoriau a oedd pobl yn rhoi i'w hiwmor eu hunain wedi'u dylanwadu gan ffactorau etifeddol ac amgylcheddol. 

Ond pan gafodd eu capsiynau eu barnu'n annibynnol, doedd dim tystiolaeth eu bod wedi etifeddu eu doniau doniol. 

Yn lle hynny, mae'r ymchwil wedi awgrymu bod holl wahaniaethau unigol wedi'u llunio gan eu hamgylchedd.

'Syndod'

Dywedodd prif awdur yr astudiaeth, Dr Gil Greengross o Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth, bod y canfyddiadau yn "syndod".

"Er gwaethaf pwysigrwydd hiwmor, ychydig iawn a wyddon ni am sut rydyn ni’n datblygu ein synnwyr digrifwch neu pam y gall un brawd neu chwaer fod yn ddoniol ac un arall ddim yn ddoniol," meddai.

"Mae canfyddiad ein hastudiaeth nad yw'r doniau hyn yn cael eu hetifeddu yn syndod, gan ei fod yn gwrth-ddweud y rhan fwyaf o ymchwil ar etifeddiaeth ym maes creadigrwydd a sgiliau mathemategol."

Ond gan mai dyma'r astudiaeth gyntaf o'i bath, mae Dr Greengross yn dweud bod angen "dehongli'r canlyniadau yn ofalus".

"Gall dweud jôc ymddangos yn syml ond mae meddu ar synnwyr digrifwch da yn nodwedd gymhleth ac unigryw sy'n cael ei dylanwadu gan nifer o briodoleddau seicolegol a nodweddion personoliaeth," meddai.

"Mae'n amrywio ar draws gwahanol gyd-destunau cymdeithasol, fel wrth fynd ar ddêt neu ddifyrru. Gall hyn egluro pam, ar wahân i'r Brodyr Chuckle a Marx, nad oes llawer o ddigrifwyr llwyddiannus o'r un teulu agos.

"Yr hyn sy'n gyffrous am yr ymchwil hwn yw ei fod yn codi'r cwestiwn: os nad yw ein synnwyr digrifwch yn cael ei drosglwyddo o'n rhieni ond yn hytrach yn dod o'n hamgylchedd, beth yn union sy'n ein gwneud ni'n ddoniol?"

Canlyn 

Mae gan y canfyddiadau hefyd oblygiadau ar gyfer sut mae gwyddonwyr yn meddwl am rôl hiwmor mewn esblygiad.

"Mae’r canfyddiadau cynnar hyn hefyd yn herio’r sail esblygiadol sy’n cael ei derbyn yn eang ar gyfer hiwmor," meddai Dr Greengross.

"Gall synnwyr digrifwch gwych helpu i leddfu tensiwn mewn sefyllfaoedd peryglus, meithrin cydweithrediad, chwalu rhwystrau rhyngbersonol, a denu partneriaid" 

Ychwanegodd Dr Greengross bod "agweddau canlyn a chyplu diddorol" i hyn hefyd. 

"Mae ymchwil flaenorol wedi dangos bod menywod yn blaenoriaethu doniau doniol mewn partner yn fwy na dynion, tra bod dynion yn gwerthfawrogi gallu menywod i werthfawrogi eu digrifwch," meddai.

"Mae dynion yn profi pwysau dethol cryfach i fod yn ddoniol er mwyn creu argraff ar fenywod, gan arwain at ddynion yn meddu ar allu hiwmor ychydig yn uwch, ar gyfartaledd - canfyddiad sy’n cael ei gefnogi gan ein hastudiaeth. 

"Ar ben hynny, roedd dynion yn graddio eu hunain yn fwy doniol na menywod, sy’n debygol o adlewyrchu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd hiwmor wrth ddewis partner benywaidd."

Mae’r tîm ymchwil bellach yn cynnal astudiaethau pellach i brofi’r canfyddiadau gyda gwahanol grwpiau sampl o efeilliaid. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.