Newyddion S4C

Achub tarw oedd yn sownd mewn cors ger Aberhonddu

Bruce y tarw

Mae tarw oedd yn sownd mewn cors ger Aberhonddu ym Mhowys wedi cael ei achub gan y gwasanaeth tân.

Cafodd criwiau Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw am 11.36 ddydd Sul i'r digwyddiad yn Llanfihangel Nant Brân.

Roedd Bruce, tarw naw oed sy'n pwyso tua 800kg, wedi mynd yn sownd mewn cors.

Cafodd cerbydau 4x4 o Orsaf Dân Aberhonddu, ynghyd â'r Tîm Achub Anifeiliaid o Orsaf Dân Pontardawe, eu hanfon i'r lleoliad.  

Cafodd y criwiau eu cynorthwyo gan Filfeddygon Honddu yn ogystal â ffrindiau a chymdogion perchennog Bruce. 

Image
Bruce y tarw

Dywedodd y gwasanaeth tân bod yr ymgyrch i'w achub yn "heriol" ac wedi cymryd tua dwy awr a hanner i'w gwblhau.  

Roedd yn rhaid i'r criwiau ddefnyddio offer arbennig, gan gynnwys slingiau a strapiau.

Yn y pen draw cafodd Bruce ei achub am tua 17.30.

Dywedodd perchennog Bruce, Marilyn Jones: "Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r ymgyrch i achub Bruce heddiw.

"Mae Bruce bellach yn hapus yn bwyta yn ei gae." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.