Newyddion S4C

Mam yn cael llawdriniaeth 'gyntaf o'i bath yn y byd' ar ôl syniad 'gwallgof'

Nicola Purdie a Reza Arya

Mae mam o dde Cymru wedi cael llawdriniaeth "gyntaf o'i bath yn y byd" ar ôl syniad "gwallgof" wedi iddi gael diagnosis o ganser y fron am yr eildro.

Yn 2020 roedd Nicola Purdie o Abertawe wedi cael diagnosis o ganser y fron yn fuan ar ôl rhoi genedigaeth i'w phlentyn cyntaf.

Cafodd lawdriniaeth yn Ysbyty Singleton i gael gwared ar ei dwy fron a'u hailstrwythuro trwy ddefnyddio meinwe o'i stumog.

Mae'r broses honno'n cael ei galw'n DIEP fflap.

Dechreuodd Nicola, sydd yn 28 oed wella ar ôl y llawdriniaeth. Ond yn 2024 pan oedd hi'n feichiog eto fe gafodd wybod bod y canser wedi  dychwelyd yn ei bron dde.

"Roedd popeth yn iawn, roeddwn i wedi rhoi genedigaeth i fy merch fach ac roeddem ni eisiau baban arall," meddai.

"Ar ôl gorffen y meddyginiaethau roedden ni wedi dechrau trial am faban arall. Pum mis wedi i ni feichiogi fe wnes i ddarganfod lwmp dan fy mron dde ac roeddwn i wedi cael diagnosis o'r union un canser ag o'r blaen."

'Manteision ac anfanteision'

Yr unig opsiwn oedd torri'r fron a defnyddio croen o'i chefn er mwyn strwythuro un newydd.

Ond ar ôl i aelod o'i theulu gael profiad gwael doedd hi ddim yn awyddus i wneud hyn.

Awgrymodd Nicola i'w doctor, Mr Reza Arya y syniad o ddefnyddio DIEP fflap iach ei bron chwith er mwyn strwythuro ei bron dde newydd.

Mae Reza Arya yn un o lond llaw o arbenigwyr yn y DU sy'n perfformio llawdriniaethau tynnu canser ac adlunio'r fron.

Doedd o erioed wedi clywed am y syniad o wneud hyn o'r blaen. Doedd o chwaith ddim yn siŵr os oedd hyn yn bosibl.

"Dwi'n cofio Reza yn eistedd yn ei gadair, a ro'n i yn gallu gweld ei feddwl yn gweithio," meddai Nicola.

Yn ôl Mr Arya roedd angen rhoi ystyriaeth "manwl" i'r syniad.

"Roeddwn i'n dadansoddi'r manteision a'r anfanteision cyn ystyried os oedd yn bosib.

"Doeddwn i erioed wedi clywed am y fath lawdriniaeth yn cael ei thrafod."

'Ffydd'

Fe ddaeth Mr Arya i'r casgliad y byddai'n ddatrysiad i ail ddiagnosis canser Nicola.

Wedi saith awr roedd y llawdriniaeth yn llwyddiannus ac mae profion pellach wedi dangos bod y canser wedi diflannu.

“Roedd gen i ffydd yn Mr Arya,” meddai Nicola.

“Roeddwn i’n gwybod ei fod yn gwbl barod i wrando ar fy anghenion a’m dymuniadau a’u hystyried."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.