Newyddion S4C

Rhybudd melyn am stormydd i Gymru gyfan ddydd Llun

Rhybudd melyn - storm

Mae rhybudd melyn am stormydd mewn grym ar gyfer Cymru gyfan brynhawn ddydd Llun.

Mae’r rhybudd mewn grym rhwng 12:00 a 22:00 ddydd Llun.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gall y stormydd mellt a tharanau arwain at rywfaint o lifogydd mewn rhannau o Gymru.

Gall arwain at oedi i deithiau yn ogystal ag achosi i rai ardaloedd golli cyflenwadau pŵer am gyfnod.

Mae disgwyl i’r cawodydd a stormydd symud yn gyflym yn ystod y prynhawn.

Hefyd, mae disgwyl i 20-30mm o law ddisgyn mewn llai nag awr yn y prynhawn mewn rhai mannau, a 40-50mm mewn 1-2 awr.

Bydd mellt, cenllysg a gwyntoedd cryfion yn beryglon ychwanegol.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.