Hamas am ryddhau gwystl mewn ymdrech i gael cadoediad parhaol
Mae Hamas wedi dweud y byddan nhw yn rhyddhau Edan Alexander, Milwr Israelaidd sydd gyda dinasyddiaeth Americanaidd.
Daw hyn mewn ymdrech i gael cadoediad parhaol gydag Israel.
Y gred yw mai’r milwr 21 oed yw’r Americanwr olaf dal yn fyw sydd yn parhau yn wystlon yn Gaza.
Y disgwyl yw y bydd yr Arlywydd Trump yn ymweld â’r Dwyrain Canol ddydd Mawrth.
Mae Hamas wedi dweud wrth y BBC eu bod mewn trafodaethau uniongyrchol gyda America yn Qatar.
“Ewyllys da” gan Hamas yw’r cyhoeddiad meddai’r rhai sydd yn gyfarwydd gyda thrafodaethau fel hyn.
Mae Hamas hefyd wedi dweud eu bod eisiau hwyluso cytundeb fel bod modd cael cymorth dyngarol. Does yna ddim cymorth meddygol na bwyd na diod wedi cael mynd mewn i Gaza ers 70 diwrnod.
Mae swyddfa Prif Weinidog Israel wedi dweud bod disgwyl trafodaethau pellach am wystlon eraill yn sgil y cyhoeddiad.
Yn y gorffennol mae Hamas wedi cytuno i gytundeb fyddai yn dod ar ryfel i ben. Ond mae Benjamin Netanyahu, Prif Weinidog Israel wastad wedi gwrthod hyn.
Llun: The Hostages Families Forum