‘Pob maes’ o’r system fewnfudo yn cael ei ‘dynhau’ medd y Prif Weinidog
Bydd “pob maes” o’r system fewnfudo yn cael ei “dynhau’ meddai Keir Starmer wrth iddo ddatgelu llu o ddiwygiadau newydd.
Bydd mewnfudwyr yn gorfod treulio degawd yn y DU cyn y gallu gwneud cais am ddinasyddiaeth, a bydd gofynion iaith Saesneg yn cael eu cynyddu.
Mae gweinidogion yn ceisio lleihau mewnfudo net a gyrhaeddodd 728,000 yn 2024.
Bydd y Prif Weinidog yn dweud y bydd “niferoedd mudo yn gostwng” o ganlyniad i’r polisïau yn y Papur Gwyn ar Fewnfudo, a fydd yn cael ei ddatgelu ddydd Llun.
Fel rhan o’r cynlluniau, bydd angen gradd prifysgol ar gyfer fisas gweithwyr medrus, a bydd cyfyngiadau llymach ar recriwtio ar gyfer swyddi lle mae prinder sgiliau.
Yn y cyfamser, mae’r Ysgrifennydd Cartref, Yvette Cooper, wedi ymrwymo i gyflwyno 50,000 yn llai o fisas i weithwyr 'sgiliau is' gan gynnwys gweithwyr gofal o wledydd tramor.
Dywedodd Ms Cooper fore dydd Sul ei fod yn amser i “ddod i ben recriwtio gweithwyr gofal o dramor”.
“Mae hwn yn doriad llwyr o’r gorffennol a bydd yn sicrhau bod ymgartrefu yn y wlad hon yn fraint y mae’n rhaid ei hennill, nid yn hawl,” meddai.
“A phan ddaw pobl i’n gwlad, dylent hefyd ymrwymo i integreiddio ac i ddysgu ein hiaith.”