Buddsoddi £9m gyda'r nod o ‘stopio trosglwyddiadau newydd o HIV’ yng Nghymru
Bydd £9m yn cael ei fuddsoddi dros y ddwy flynedd nesaf gyda’r nod o stopio trosglwyddiadau newydd o HIV yng Nghymru.
Bydd £4m o’r arian yn ehangu gwasanaeth profi ar-lein cyfrinachol am ddim ar gyfer yr haint.
Mae'r gwasanaeth profi ar-lein eisoes yn darparu 40,000 o brofion HIV gartref bob blwyddyn meddai Llywodraeth Cymru. Mae bron i 16,000 o becynnau profi cymunedol yn cael eu dosbarthu ledled Cymru hefyd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles ei fod “eisiau i bobl sy'n byw gyda HIV yng Nghymru fyw eu bywydau gorau posibl”.
"Byddwn ni'n codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd profi ac yn ehangu ein gwasanaethau profi ar-lein llwyddiannus, gan ei gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad at brawf,” meddai.
“Byddwn ni hefyd yn ei gwneud hi'n haws i bobl gael mynediad at PrEP ac yn atgyfnerthu'r neges allweddol na all pobl sydd ar driniaeth effeithiol drosglwyddo HIV i eraill."
Mae'r cyffur broffylacsis cyn-gysylltiad (PrEP), o'i gymryd yn unol â presgripsiwn, yn lleihau'r risg o ddal HIV ryw 99%.
Mae Cymru eisoes yn darparu PrEP drwy'r GIG. Bellach, bydd math amgen o'r cyffur ar gael fel mater o drefn i'r rhai nad ydynt yn gallu cymryd y math presennol.
“Byddwn yn cryfhau gwasanaethau cymorth i sicrhau bod pobl sydd â HIV yn byw'n dda ac yn cael y driniaeth gywir pan fydd ei hangen arnynt,” meddai Llywodraeth Cymru.