Newyddion S4C

Cyllid cyhoeddus ar gyfer y Teulu Brenhinol wedi treblu ers 2012

Y Teulu Brenhinol

Mae cyllid cyhoeddus ar gyfer y Teulu Brenhinol wedi treblu ers 2012, yn ôl ffigurau swyddogol.

Mae’r cynnydd yn bennaf oherwydd gwaith atgyweirio ac adeiladu ym Mhalas Buckingham.

Roedd y Grant Sofran, sy’n darparu cymorth trethdalwyr i’r frenhiniaeth, yn 2012 yn £31m y flwyddyn. 

Mae hynny bellach wedi codi i £132m, yn ôl data o Lyfrgell Tŷ’r Cyffredin.

Cynyddodd y grant 53% ym mis Ebrill, o £86.3m i £132.1m. 

Dywedodd cynrychiolwyr y teulu Brenhinol fod hyn oherwydd prosiect adeiladu Palas Buckingham a bydd y grant yn dod i lawr eto, gan ychwanegu bod y frenhiniaeth “yn cynrychioli gwerth am arian”.

Dywedodd yr Arglwydd Turnbull, arglwydd traws-fainc a chyn Ysgrifennydd Cabinet, bod y ffordd y mae’r grant yn cael ei gyfrif yn “nonsens llwyr” ond dywedodd nad yw’r gyllideb yn uchel o gymharu ag arweinyddion gwladwriaethau arlywyddol eraill.

Mae'r Grant Sofran yn darparu cyllid ar gyfer dyletswyddau swyddogol y frenhiniaeth. Yn y ffigurau diweddaraf, ar gyfer 2023-24, yr eitemau mwyaf oedd cynnal a chadw eiddo a chyflogres staff, gyda symiau llai ar gyfer teithio a lletygarwch a chadw tŷ.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.