Rhybudd am stormydd a llifogydd i rannau o Gymru ar ôl y tywydd braf
Mae rhybudd am stormydd a llifogydd i dde a chanolbarth Cymru ddydd Sul yn dilyn cyfnod o dywydd braf.
Mae rhagolygon tymheredd uwch na’r cyffredin ar gyfer y DU y penwythnos hwn cyn i stormydd mellt a tharanau daro rhannau o’r wlad ddydd Sul, meddai’r Swyddfa Dywydd.
Bydd Cymru a llawer o’r DU yn mwynhau awyr las ddydd Sadwrn cyn i gawodydd lifo i mewn o’r de nos Sadwrn.
Gallai cawodydd trwm a tharannog o bosibl gyrraedd ddydd Sul, gan effeithio'n bennaf ar dde a canolbarth Cymru a hefyd rhannau o Orllewin Canolbarth Lloegr.
Mae disgwyl i dymheredd y penwythnos hwn gyrraedd uchafbwyntiau o 25-26C, sydd tua 8C yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer yr adeg o’r flwyddyn, meddai Jonathan Vautrey o’r Swyddfa Dywydd.
Dywedodd fod posib y bydd pyliau “trwm, sydyn” o law a chenllysg a mellt. a tharanau.
Dywedodd: “Yn amlwg mae hi wedi bod yn wanwyn eithaf sych felly mewn llawer o ardaloedd mae angen glaw, ond oherwydd natur drwm y cawodydd hyn, yn tasgu ar arwynebau caled, mae yna bosibilrwydd o broblemau yn lleol a llifogydd.”
Fe allai rhwng 20mm a 30mm o law ddisgyn o fewn ychydig oriau, neu gymaint â 40mm mewn tair awr, meddai’r Swyddfa Dywydd.
Mae modurwyr wedi cael eu hannog i fod yn ofalus wrth yrru a bod yn ymwybodol y gallai’r stormydd o fellt a tharanau ddigwydd “ar fyr rybudd”.
Fe allai’r tywydd gwlyb hefyd barhau ddydd Llun ar draws de Cymru a gorllewin Lloegr.
O ddydd Mawrth ymlaen, bydd y pwysau uchel yn ailadeiladu a bydd amodau sych a heulwen yn dychwelyd ar draws y DU.