
Carchar i ddyn o Abertawe am osod car ar dân yn fwriadol
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl iddo roi car dyn arall ar dân yn fwriadol.
Fe wnaeth Jamie Paton, 34 oed o Benlan, y weithred ar 11 Tachwedd 2024.
Yn ddiweddarach fe wnaeth fygythiadau i daflu “bom petrol” i mewn i eiddo arall.
Wrth gael ei arestio ym mis Rhagfyr, fe achosodd Paton ddifrod i gerbyd heddlu. Cafwyd Paton hefyd yn euog o drosedd trefn gyhoeddus homoffobig yn erbyn y swyddog a wnaeth ei arestio.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i 25 mis yn y carchar.
Dywedodd PC Lisa Stokes: “Mae Jamie Paton yn amlwg yn unigolyn penboeth ac anaeddfed nad oedd yn fodlon derbyn canlyniadau ei weithredoedd ei hun.
“Waeth p’un a oedd Jamie wedi cweryla â phobl eraill, nid oes unrhyw esgus o gwbl dros gynnau tân yn eu cerbyd – gallai’r tân fod wedi lledu ac effeithio ar eiddo cyfagos, gan roi aelodau o’r cyhoedd mewn niwed.
“Doedd Jamie ddim yn poeni am hynny – y cyfan oedd yn bwysig iddo oedd ei gynddaredd. Roedd yn amlwg yn gwybod ei fod wedi gwneud cam, a dyna pam y gwnaeth bopeth o fewn ei allu i osgoi cael ei arestio nes i’r heddlu ei ddal.”

Lluniau: Heddlu De Cymru